Enwebu tîm arlwyo ysgolion am wobr arloesi

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Mehefin 2023

Mae tua thraean o’r holl fwyd sy’n cael ei gynhyrchu ar gyfer pobl yn cyfrannu tua 8 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd.

Nod tîm Arlwyo Ysgolion Cyngor Torfaen yw lleihau rhywfaint ohonynt,  o leiaf, trwy drawsnewid y ffordd y mae prydau ysgol yn cael eu cynllunio a’u creu a ffynhonnell y cynhwysion ar eu cyfer.

Mae’r tîm wedi datblygu Map Siwrnai Cynaliadwyedd newydd sy’n cyflwyno’i cynlluniau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, a bydd yn adrodd yn rheolaidd ar gynnydd er mwyn i ysgolion a disgyblion allu cadw llygad ar y cynnydd. Un fenter sydd wedi bod ar waith yw cystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff, i ddisgyblion ysgolion cynradd. Mae’r fenter yn annog disgyblion i fonitro gwastraff bwyd amser cinio, a’i leihau. Rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth.

Erbyn hyn, mae’r gwaith y mae’r gwasanaeth wedi ei wneud i ddatblygu’r map wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol gan LACA, sef y corff proffesiynol arweiniol ar gyfer y sector prydau ysgol.

Mae enwebiadau’r wobr ar gyfer unigolion neu dîmau sy’n sefyll allan am gyflawni rhywbeth gwahanol, arddangos syniadau arloesol, cydweithio a gweithio mewn partneriaeth ac sydd wedi cwrdd ag amcanion busnes ac wedi sicrhau bod y gwasanaeth arlwyo ysgolion yn fwy gweladwy.

Bydd y rownd derfynol ddydd Iau 6 Gorffennaf yng Ngwesty’r Hilton Metropole, Birmingham.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’r Tîm Arlwyo Ysgolion yn uchelgeisiol iawn ynghylch materion fel lleihau gwastraff bwyd, a lleihau allyriadau carbon. Dymunaf y gorau iddynt ar noson y gwobrau – maen nhw’n haeddu’r gydnabyddiaeth.

“Maen nhw’n gweithio’n galed iawn gydag ysgolion a phartneriaid eraill i sicrhau bod prydau ysgol yn flasus, yn llawn maeth ac yn gynaliadwy.”

Mae’r prosiect hwn yn cyfrannu at amcanion llesiant y cyngor i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Gallwch ddarllen mwy am Gynllun Sirol y cyngor yma.

Y llynedd, lansiodd y cyngor wasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd newydd i ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n defnyddio Gwasanaeth Arlwyo Torfaen. Un ymdrech o blith nifer wrth i’r cyngor geisio #Codi’rGyfradd ac ailgylchu mwy yn unol â tharged Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70% erbyn 2025.

Rhagor o wybodaeth am Arlwyo ysgolion cynradd.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 07/07/2023 Nôl i’r Brig