Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Mehefin 2023
Bydd disgyblion o ysgol ym Mhont-y-pŵl yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol cystadleuaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, i ddylunio car rasio Fformiwla Un model, a’i yrru.
Ffurfiodd disgyblion Blwyddyn 4 Ysgol Gynradd Garnteg eu tîmau rasio Fformiwla Un eu hunain am y diwrnod.
Y dasg oedd dylunio car model wedi ei wneud o gerdyn a’i bweru gan silindr nwy cywasgedig 4gm, ei adeiladu, ei brofi a’i rasio ar drac 24 metr o hyd.
Fe fu’n rhaid i’r tîmau oresgyn nifer o heriau, er enghraifft sicrhau mai eu car model nhw oedd y cyflymaf ar y trac, dylunio nwyddau i’w gwerthu a chyllidebu.
Y tîm â’r car cyflymaf ar y diwrnod oedd The Power Ladies, a theithiodd eu car model ar hyd y trac 25 metr mewn 1.672 eiliad. Tipyn o gamp!
Mae Mila yn un o’r disgyblion a oedd yn y tîm. Meddai: “Roedd y sŵn wedi fy synnu ond ar y cyfan roedd y diwrnod yn anhygoel! Mwynheais i ddysgu am aerodynameg car ac rydw i eisiau dweud da iawn wrth yr holl dimau! “
Roedd Evie yn aelod o Team Rocket. Meddai Evie: “Roeddwn i wrth fy modd yn gweld y ceir i gyd yn rasio i lawr y trac. Roedd e’n gymaint o hwyl a’r ceir mor gyflym! Mwynheais i ddysgu am y grymoedd gwahanol a bod eisiau iddyn nhw i gyd i fod yn iawn er mwyn i’r car weithio”
Meddai Charlie, o dîm Cute Frenchies: “Roeddwn i’n synnu mor bwerus oedd y ceir yn lansio. Roeddwn i’n hoffi defnyddio’r offer i blygu a chreu fy ngar”.
Mae’r ysgol wedi mynd ymlaen i ennill nifer o wobrau yng nghystadlaethau rhanbarthol Cymru a bydd yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol y gystadleuaeth STEM Ff1 yn Leeds ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf.
Meddai Mrs Susan Roche, Pennaeth Ysgol Gynradd Garnteg: “Rwy’n falch iawn o gyrhaeddiad diweddar ein hysgol. Mae gweld gwaith caled y tîm a’r myfyrwyr, a’u dyfalbarhad, yn talu ar ei ganfed yn y rowndiau rhanbarthol, a nawr wrth fynd i’r rownd derfynol yn Leeds, yn fy ngwneud i’n eithriadol o falch.”
“Hoffwn fynegi faint yr ydw i’n eu hedmygu ac yn ddiolchgar iddynt. Mae eu dyfalbarhad a’u hymdrechion diflino wedi ennill llongyfarchiadau haeddiannol iawn wrtha’ i am waith arbennig o dda.”
Mae’r gystadleuaeth STEM Ff1 wedi bod yn cael ei chynnal mewn ysgolion ers 1999 ac mae’n anelu at hyrwyddo gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg mewn addysg.
Dyma un ffordd o blith nifer y mae’r ysgol yn anelu at ddarparu addysg sy’n llawn amrywiaeth, ac yn ei dro mae hyn wedi bod o gymorth i wella cyfraddau presenoldeb.