Wedi ei bostio ar Dydd Iau 22 Mehefin 2023
Mae Sialens Ddarllen yr Haf - 'Ar Eich Marciau, Darllenwch!' – yn cychwyn ym mis Gorffennaf yn llyfrgelloedd Torfaen!
Gall plant 4-11 oed ymweld ag unrhyw lyfrgell yn Nhorfaen a chofrestru i gymryd rhan yn y sialens o ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf.
Fe'u gwahoddir i ddarllen chwech neu fwy o lyfrau llyfrgell o'u dewis drwy gydol yr haf, gan gasglu llawer o wobrau difyr ar hyd y daith.
Mae unrhyw lyfrau, gan gynnwys llyfrau sain ac e-lyfrau, sy'n cael eu benthyg o unrhyw lyfrgell yn Nhorfaen, yn cyfrif tuag at y sialens. Y rhan orau? Mae’r cyfan oll yn rhad ac am ddim!
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn aelod o'r llyfrgell – gallwch gofrestru i dderbyn cerdyn ar unrhyw adeg.
Cyflwynir Sialens Ddarllen yr Haf gan The Reading Agency - elusen sy’n hyrwyddo manteision darllen i blant ac oedolion yn y DU - fe'i cyflwynir mewn partneriaeth â llyfrgelloedd ac Youth Sport Trust.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol, Plant, Teuluoedd ac Addysg, Cyngor Torfaen: “Mae plant sy'n cymryd rhan yn y sialens nid yn unig yn cael hwyl, ond hefyd yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi fel darllenwyr mwy rhugl, hyderus a hapus. Drwy gynnal eu harferion darllen dros gyfnod hir yr haf, maent yn sicrhau bod eu sgiliau llythrennedd yn parhau i ffynnu.”
I nodi lansiad Sialens Ddarllen yr Haf eleni, bydd Llyfrgell Cwmbrân yn cynnal bore o hwyl, yn cynnwys crefftau a gweithgareddau difyr, fore Sadwrn 8 Gorffennaf o 9:30am.
Cadwch lygad am ddigwyddiadau yn y llyfrgelloedd yn ystod gwyliau’r haf, yn cynnwys sesiynau stori a chân a chlybiau Lego.
Bydd y tair llyfrgell hefyd yn cynnig sesiynau stori a chrefft am ddim i blant 5 - 10 oed drwy gydol mis Awst.
I gael mwy o wybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf, y gweithgareddau a’r digwyddiadau sydd ar y gweill, rhowch alwad ar 01633 647676 neu ewch i dudalen Llyfrgelloedd Torfaen ar Facebook.