Ysgol yn arloesi i leihau absenoldebau anawdurdodedig

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 15 Mehefin 2023
DSC00099

Mae ysgol yn Nhorfaen wedi gweld cynnydd ym mhresenoldeb ei disgyblion diolch i’w hagwedd arloesol at addysg.

Gwelodd Ysgol Gynradd Garnteg ym Mhont-y-pŵl ei chyfradd presenoldeb blwyddyn-ar-flwyddyn yn codi o 91.1% ym mis Mai 2022, i 91.6% ym mis Mai 2023.

Credir bod y cyrhaeddiad hwn yn ganlyniad i ymrwymiad yr ysgol i gynnig cyfleoedd dysgu cyfoethog, a chystadleuaeth gyfeillgar rhwng dosbarthiadau i leihau absenoldebau anawdurdodedig.

Ar ddechrau pob tymor, mae disgyblion yn cael y cyfle i ddylanwadu ar eu taith addysgol, trwy lais y disgybl.

Mae hyn yn sicrhau bod disgyblion yn cyfrannu’n weithgar wrth benderfynu pa brosiectau a thestunau yr hoffent eu dysgu mewn gwersi. 

Ar gyfer presenoldeb yn ystod y tymor mae’r ysgol yn rhoi tystysgrifau a gwobrau i bob disgybl â chyfradd presenoldeb rhwng 95% a 100%.

Credir mai un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at lwyddiant Garnteg yw ei hymrwymiad i ddarparu profiadau allgyrsiol rhagorol.

Mae’r holl brosiectau’n cynnwys profiadau dilys sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd hanesyddol cyfoethog, a chafwyd cyfleoedd ar gyfer gwaith pren, gwnïo, coginio a defnyddio’r amgylchedd dysgu awyr agored - #AchubYCyfle.

Mae’r ysgol hefyd wedi buddsoddi mewn adnoddau a chyfleusterau amrywiol, gan gynnwys wal ddringo fodern, ardal arbennig gyda phyllau chwilota, ac ardal ysgol y goedwig, ac mae’r rhain i gyd yn gymorth i gymhwyso sgiliau’r disgyblion ar draws y cwricwlwm.

Yn fwyaf diweddar, enillodd disgyblion Garnteg gystadleuaeth Fformiwla 1 STEM Cymru a byddan nhw’n mynd i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU yn Leeds yn nes ymlaen eleni.

Meddai Susan Roche, Pennaeth Ysgol Gynradd Garnteg: "Mae ein prif ffocws ar greu amgylchedd dysgu cynhwysol, sy’n canolbwyntio ar y disgyblion. Credwn yn gryf fod plant yn datblygu ymdeimlad o berchnogaeth a balchder yn eu dysgu pan fyddant yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu gwerthfawrogi, ac mae hynny’n arwain yn naturiol at bresenoldeb gwell a llwyddiant academaidd.

"Credwn yn gryf fod addysgu yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau’r ystafell ddosbarth draddodiadol. Trwy gynnig dewis eang o brofiadau, rydym yn ymdrechu i greu amgylcheddau dysgu sy’n trochi’r disgyblion yn eu haddysg ac yn ennyn chwilfrydedd ac angerdd ynddynt. Law yn llaw â’r ymdeimlad cryf o gymuned yr ydym yn ei feithrin yn ein hysgol, credwn fod y profiadau hyn wedi cyfrannu at y cynnydd yn ein cyfraddau presenoldeb.

“Rydym yn falch fod ymgyrch Ddim Mewn Colli Mas y cyngor wedi ffocysu’n benodol ar annog plant i fynychu’r ysgol yn rheolaidd a dathlu’r pethau cyffrous y mae’r ysgolion yn eu gwneud.”

Meddai Richard Clark, Aelod Gweithredol Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae llwyddiant Ysgol Gynradd Garnteg i wella cyfraddau presenoldeb yn dyst i ymrwymiad ac ymroddiad aruthrol staff yr ysgol, ei myfyrwyr a’i rhieni.

“Mae’r ysgol yn dyfalbarhau â’i chenhadaeth o ddarparu amgylchedd cynhwysol, deniadol a chefnogol sy’n sicrhau bod pob disgybl yn ffynnu ac yn cyrraedd ei lawn botensial.”

Diwygiwyd Diwethaf: 15/06/2023 Nôl i’r Brig