Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Mehefin 2023
Mae staff mewn ysgol gynradd yng Nghwmbrân wedi cael eu canmol am roi lles disgyblion wrth galon yr ysgol.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon, dywedodd arolygwyr Estyn fod y gefnogaeth mae Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion yn ei roi i anghenion emosiynol disgyblion yn gryfder arbennig, ac ychwanegont fod myfyrwyr yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a’u bod yn cael cefnogaeth dda.
Dywedodd yr adroddiad: "Mae lles disgyblion wrth galon Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion. Mae llawer o ddisgyblion yn mwynhau'r ysgol ac yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel yno.
"Mae’r ffordd y mae’r ysgol yn cefnogi disgyblion ag anghenion emosiynol a lles yn gryfder arbennig."
Canmolodd yr arolygwyr yr ysgol hefyd am ddatblygu profiadau dysgu diddorol yn seiliedig ar y Cwricwlwm newydd i Gymru, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored, ymwybyddiaeth o dreftadaeth leol a theithiau addysgol.
Dywedodd yr adroddiad: "Mae athrawon yn dechrau ystyried sut maen nhw'n cynllunio ar gyfer profiadau dysgu diddorol, go iawn, i adlewyrchu egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.
Maent yn cynllunio gwersi sy'n adeiladu ar y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eisoes gan y disgyblion.
"Mae'r ysgol yn dechrau creu cwricwlwm pwrpasol i adlewyrchu eu hardal leol, eu gwerthoedd a'u credoau."
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Addysg,: " Mae natur ofalgar a chefnogol Ysgol Mair a’r Angylion yn amlwg iawn ym mhob rhan o'r adroddiad hwn gan Estyn.
"Mae'r arolygwyr yn priodoli’r presenoldeb da, yr ymddygiad a pha mor barod yw’r disgyblion i ddysgu, i'r ffaith eu bod yn teimlo'n hapus ac yn cael eu cefnogi gan y staff."
Argymhellodd yr adroddiad fod yr ysgol yn gwella’r cynllunio a’r ddarpariaeth i gefnogi datblygu medrau disgyblion yn gynyddol; rhoi min ar brosesau hunanwerthuso a rhoi cyfleoedd cyson i ddisgyblion ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol.