Lleoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg yn agor

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 7 Mehefin 2023
YGG childcare

Mae Cyngor Torfaen yn falch o fedru cyhoeddi agor lleoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd ym Mhont-y-pŵl.

Agorodd y ganolfan newydd yn adran gynradd Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhrefddyn yn Ebrill ac mae lle yno i 45 o blant, rhwng 2 a 12 oed, sy’n gymwys ar gyfer gofal plant wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw yn cynnig darpariaeth Dechrau’n Deg ar hyn o bryd

Mae yna gynlluniau hefyd i gynnig gofal cofleidiol i blant mewn clybiau ysgol a gwyliau, yn ogystal â lleoedd wedi eu hariannu gan y Gofal Plant i Gymru erbyn Medi.

Mae teuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn gymwys i gael 12 awr a hanner o ofal plant am ddim yr wythnos, sydd gyfystyr a dwy awr a hanner y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, am 39 wythnos y flwyddyn. Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy ymweld â gwefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen.

Mae’r ganolfan hefyd yn nodi carreg filltir arall yn ymdrechion y cyngor i gynyddu gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg ledled y fwrdeistref.

Yn Ebrill, agorodd yr uned drochi Cymraeg gyntaf yn Ysgol Panteg i blant cynradd sydd am drosglwyddo o addysg gyfrwng Saesneg.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Rydym yn hynod o falch o fod yn lansio Gofal Plant Yr Enfys Gwynllyw. Mae’r ddarpariaeth yma nid yn unig yn dangos ein hymrwymiad i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ond mae’n sicrhau hefyd bod plant yn gallu cael gofal plant o ansawdd uchel mewn lle gofalgar sy’n rhoi gwerth ar eu treftadaeth ieithyddol a diwylliannol.

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi twf gofal plant ac addysg Gymraeg yma yn Nhorfaen, ac mae Gofal Plant Yr Enfys Gwynllyw yn gam sylweddol i’r cyfeiriad hwnnw."

Am fwy o wybodaeth am Ofal Plant Yr Enfys Gwynllyw, cysylltwch ag Emma Edwards, Arweinydd Tîm Dechrau’n Deg ar 01495 742843, 07940 792823 neu drwy e-bost at emma.edwards@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 07/06/2023 Nôl i’r Brig