Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 6 Mehefin 2023
Mae dros 900 o blant wedi cymryd rhan mewn wythnos llawn hwyl a chwarae'r hanner tymor yma, diolch i Wasanaeth Chwarae Torfaen.
Darparwyd sesiynau Chwarae a Lles mewn ysgolion a mannau cymunedol ledled y fwrdeistref, ble daeth dros 120 o weithwyr chwarae a gwirfoddolwyr i gynnig amrywiaeth o weithgareddau’n seiliedig ar chwarae.
Cafodd plant gyfle i ymdrochi mewn amrywiaeth o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys chwaraeon, celf a chrefft, gemau tîm a chyfle i dreulio amser gwerthfawr gyda ffrindiau.
Cafwyd sesiynau chwarae a seibiant arbenigol ar gyfer tua 85 o blant a oedd ag angen am gefnogaeth ychwanegol.
Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen: “Mae hi wedi bod yn wythnos wych arall o chwarae, gyda niferoedd mawr o blant yn cymryd mantais o gyfleoedd i chwarae am ddim.
“Ni fyddai hyn yn bosibl o gwbl heb ymroddiad ac ymrwymiad gweithwyr chwarae a gwirfoddolwyr sy’n cefnogi’r gweithgareddau yma trwy gydol y flwyddyn.”
Am fwy o wybodaeth am y mathau gwahanol o ddarpariaethau chwarae y mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn eu cynnig, yna ewch i wefan Cyngor Torfaen.