Wedi ei bostio ar Dydd Iau 27 Gorffennaf 2023
Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen newydd lansio eu llyfryn newydd ar gyfer 2023/24, gyda mwy na 100 o gyrsiau i ddewis ohonynt.
Mae cyrsiau achrededig a heb eu hachredu ar gael, yn amrywio o TGAU Saesneg a Mathemateg i gyrsiau coginio, sgiliau digidol a dosbarthiadau ieithoedd tramor.
Mae cyrsiau wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer ystod eang o ddiddordebau a nodau, o'r rhai sy'n awyddus i ddechrau hobi newydd i unigolion sydd eisiau cymryd y camau nesaf yn eu gyrfa.
Bydd y llyfryn yn cael ei ddosbarthu i bob eiddo yn Nhorfaen yn ystod wythnos gyntaf mis Awst neu gallwch ei weld ar-lein yma.
Ian Evans, 72 oed, o Henllys, yw sylfaenydd Grŵp Sporting Memories yng Nghwmbrân — sy'n cefnogi pobl 50 a throsodd i wella eu lles meddyliol a chorfforol, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda dementia, iselder neu sy'n wynebu unigedd ac unigrwydd.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Ian ac aelodau eraill o'r grŵp gwrs Adfywio’r Galon a Chymorth Cyntaf Lefel 2 rhad ac am ddim yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog.
Dywedodd Ian: “Sefydlais grŵp Sporting Memories yng Nghlwb Rygbi Cwmbrân ar ôl y pandemig, gyda'r nod o ddod â dynion a merched oedd yn arfer ymwneud â chwaraeon at ei gilydd, yn enwedig y rhai sydd wedi'u hynysu'n gymdeithasol, i hel atgofion am y gorffennol.
“O ystyried demograffig y grŵp a'r ystod o gyflyrau meddygol, roedd yn gwneud synnwyr bod ein gwirfoddolwyr mewn sefyllfa i ddarparu rhywfaint o gymorth cyntaf brys ar unwaith pe bai'r angen hwnnw'n codi.
“Gwelsom fod y ddau gwrs yn fuddiol iawn, nid yn unig yn dangos ac yn caniatáu i ni ymarfer ymatebion cywir i amrywiaeth eang o argyfyngau meddygol, ond hefyd yn cynyddu ein hyder wrth ddelio â sefyllfaoedd. Byddwn yn annog mwy o grwpiau yn Nhorfaen i fanteisio ar y cyrsiau rhad ac am ddim hyn gan ei fod wedi bod yn hynod fuddiol”.
Yn ogystal, mae Yasmin Westmeckett,18, o Oakfield, wedi cwblhau cymhwyster TGAU Mathemateg eleni ac mae nawr am gofrestru ar gyfer cymhwyster Lefel 2 Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion, cyn mis Medi.
Dywedodd Yasmin: “Gadewais yr ysgol yn 16 mlwydd oed a phenderfynais ddychwelyd i addysg oedolion yn hytrach na'r coleg gan ei fod yn hyblyg, un diwrnod yr wythnos a gyda'r nos.
“Ers cofrestru, rwyf wedi gallu gwneud TGAU Mathemateg sydd wedi fy rhoi ar y llwybr cywir i ddod yn Gynorthwyydd Addysgu.”
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn ystyried cofrestru ar gyfer cwrs yr Hydref hwn, cysylltwch â Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen drwy ffonio 01633 647647 neu e-bostio power.station@torfaen.gov.uk