Cynnydd mewn cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion ar gyfartaledd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 27 Gorffennaf 2023
#NotInMissOut tile2

Mae cyfartaledd cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn y fwrdeistref wedi gwella dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, yn ôl data cychwynnol.

Mae gwybodaeth a gofnodwyd gan ysgolion yn awgrymu bod cyfartaledd presenoldeb ysgolion cynradd wedi cynyddu un y cant yn 2022/23 o gymharu â 2021/22, a chynyddodd cyfartaledd ysgolion uwchradd tri y cant. 

Mae’r wybodaeth hefyd yn awgrymu bod gostyngiad yn nifer y disgyblion ystyrir fel rhai sy’n absennol yn barhaus, sy’n golygu bod ganddyn nhw gyfradd presenoldeb yn is na 80 y cant – cyfystyr ag un diwrnod yr wythnos.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae’r cynnydd mewn cyfraddau presenoldeb yn dyst i waith caled ein hysgolion, y Gwasanaeth Lles Addysg a theuluoedd dros y flwyddyn ddiwethaf i annog a chefnogi disgyblion i fynychu’r ysgol yn gyson.  

"Yn gynharach eleni, cymeradwyon ni Strategaeth Presenoldeb newydd sy’n ategu pwysigrwydd presenoldeb ac sy’n gosod gerbron y cymorth y gall plant a theuluoedd ddisgwyl os ydyn nhw’n cael trafferth mynychu’n gyson.

"Mae ein hysgolion yn cynnig safon uchel o addysg, fel nodwyd yn arolygon Estyn diweddar a’n hymgyrch #DdimYnoColliAllan, sydd wedi helpu i ddathlu manteision mynd i’r ysgol pob dydd.  

"Mae gyda ni waith o hyd i gyrraedd targed o 95 y cant presenoldeb ar gyfartaledd.  Rwy’n edrych ymlaen at groesawu ysgolion a theuluoedd eto ym Medi gyda ffocws o’r newydd ar wella cyfraddau presenoldeb." 

Bydd y wybodaeth ar bresenoldeb a gasglwyd gan ysgolion yn cael ei wirio gan Lywodraeth Cymru. 

Cwympodd cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion ar gyfartaledd yn Nhorfaen i fod ymhlith yr isaf yng Nghymru ar ôl pandemig Covid. 

Ers hynny, mae nifer o ysgolion wedi cyflogi staff ychwanegol i gefnogi disgyblion a theuluoedd ag anghenion ychwanegol, fel problemau corfforol neu emosiynol tymor hir. 

Ceisiodd ymgyrch #DdimYnoColliAllan leihau nifer y ceisiadau ar gyfer absenoldebau awdurdodedig neu heb awdurdod am resymau nad ydynt yn salwch neu apwyntiadau meddygol, er enghraifft gwyliau neu apwyntiadau cyffredin fel mynd at y deintydd.

Os na all plentyn fynd i’r ysgol, mae’n rhaid i’w rhiant neu ofalwr gysylltu â’u hysgol cyn gynted â phosibl.  Gall methu â gwneud hyn arwain at Hysbysiad o Gosb Benodedig.

Darllenwch fwy am Strategaeth Presenoldeb Cyngor Torfaen.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth presenoldeb yr haf yma. 

Diwygiwyd Diwethaf: 27/07/2023 Nôl i’r Brig