Taliad Costau Byw Gwyliau'r Haf

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 27 Gorffennaf 2023
FSM payments

Bydd rhieni a gofalwyr disgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn derbyn taliad o £50 y plentyn yn awtomatig o'r wythnos nesaf ymlaen.

Bydd Taliad Costau Byw Gwyliau’r Haf Torfaen yn cael ei wneud i gyfrifon banc ac nid oes angen gwneud cais. 

Mae'r taliad ar gael i deuluoedd sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim ar sail incwm isel - nid yw hyn yn cynnwys y rhai sy'n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim Cynradd Cyffredinol yn unig. 

Mae'n dilyn cymeradwyo penderfyniad gan y Cynghorydd Sue Morgan, yr Aelod Gweithredol dros Adnoddau, i gefnogi teuluoedd a fyddai eisoes wedi derbyn y Taliadau Gwyliau Prydau Ysgol am Ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd bellach wedi dod i ben.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: “Yn dilyn y pandemig, rhoddodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol dros dro i deuluoedd a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros wyliau'r haf.   

“Mae'r taliadau gwyliau ysgol hynny wedi dod i ben, ond rydym ni’n deall bod teuluoedd yn lleol sy'n dal i gael trafferth gyda chostau byw. Dyna pam rwyf fi wedi cyhoeddi bod Cyngor Torfaen yn y broses o sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer taliadau cost byw o £50 y plentyn, i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn seiliedig ar eu hincwm a'u hamgylchiadau. 

“Rydyn Ni’n gobeithio y bydd hyn yn darparu cefnogaeth werthfawr i bron i 4,300 o blant, drwy daliad uniongyrchol i rieni. “

Nod y taliadau arian parod untro yw helpu cartrefi i addasu i ddiwedd y cynllun blaenorol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Nid oes bwriad i ailadrodd ar gyfer gwyliau ysgol yn y dyfodol.

Mae'r taliadau yn ychwanegol at y cynllun Bwyd a Hwyl a ddarperir gan wasanaeth chwarae'r cyngor, a fydd hefyd yn darparu bwyd mewn lleoliadau amrywiol yn ystod gwyliau'r ysgol. 

Darganfyddwch pa gymorth arall sydd ar gael i helpu gyda chostau byw.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 27/07/2023 Nôl i’r Brig