Twll wrth ddyfrbont camlas i gael ei drwsio

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 2023

Bydd gwaith i drwsio twll wrth ymyl dyfrbont Pant Dowlais ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu’n dechrau ddydd Llun 31 Gorffennaf.

Cafwyd hyd i’r twll ar ôl adroddiadau o ddŵr isel yn y rhan rhwng Two Locks Road a Ty Coch Lane ar ddydd Gwener, 21 Gorffennaf. 

Yn ystod y gwaith atgyweirio bydd llwybr halio’r gamlas ar gau dros dro.  Caiff dau argae clai pwdlo eu creu ar naill ochr a llall y dyfrbont er mwyn lleihau pwysau’r dŵr ar y lan sy’n gollwng dŵr. 

Mae disgwyl i’r gwaith yma barhau pum diwrnod ar y mwyaf, ond y gobaith yw y bydd y llwybr halio’n cael ei agor yn gynt. 

Unwaith y bydd yr argaeau yn eu lle, bydd peirianwyr yn gallu asesu maint y twll, a chynllunio sut i’w selio er mwyn lleihau amharu ar ddefnyddwyr y gamlas a’r bywyd gwyllt. 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/07/2023 Nôl i’r Brig