Ysgol yn dathlu llwyddiant presenoldeb

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Gorffennaf 2023
Ponthir Primary

Mae ysgol gynradd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion sy’n cael eu hystyried yn absennol yn barhaus.

Mae Ysgol Gynradd Ponthir wedi gweld gwelliant mewn cyfraddau presenoldeb ers Medi, diolch i waith staff, gan gynnwys y swyddog presenoldeb, Karen Price, sy’n gweithio’n agos gyda disgyblion a theuluoedd i roi iddyn nhw’r gefnogaeth y mae ei hangen arnyn nhw.

Fel disgybl blwyddyn 4, Toby, sydd wedi cynyddu yn ei bresenoldeb o 87.47% llynedd at 96.96% eleni.

Mae’r ysgol hefyd wedi mabwysiadu ymgyrch #DdimYnoColliAllan Cyngor Torfaen fel ffordd o hyrwyddo manteision dod i’r ysgol yn rheolaidd.

Dywedodd y Pennaeth, Aisling O'Mahony: “Mae ymgyrch #DdimYnoColliAllan wedi’n galluogi ni i gael mewnwelediad i fywydau dyddiol ein dysgwyr yn yr ysgol.  Mae e wedi creu porthol ble gall rhieni a gofalwyr weld y profiadau sydd ar gael iddyn nhw ac, felly, pa mor anodd yw ‘dal i fyny’ neu ail-greu’r rheiny os ydyn nhw’n cael eu colli. 

“Er enghraifft, mae ein disgyblion wedi ymweld ag Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, i weld perfformiad rhyngweithiol am fywyd yr Esgob William Morgan, gwersyll oes y cerrig a sefydlwyd i ddysgwyr ei weld; cael hyd i larfa chwilod corniog sydd mewn perygl yn ein dolydd hyfryd; profiad dawns Bollywood – mae’r rhain i gyd yn brofiadau go iawn y mae disgyblion ar eu hennill o’u cael.  

“Mae’r cyfle i weld y profiadau yma, trwy ein hymgyrch Twitter, wedi caniatáu i’n rhieni a’n gofalwyr i’n cefnogi ni i wneud y mwyaf o bresenoldeb eu plant. 

“Hoffwn ddiolch i’n staff anhygoel am weithio’n ddiflino i greu cyfleoedd i’n plant rhyfeddol.  Mae’r profiadau yma, ynghyd ag ymgyrch #DdimYnoColliAllan, wedi cael effaith anhygoel ar bresenoldeb ar draws yr ysgol.”

Diwygiwyd Diwethaf: 21/07/2023 Nôl i’r Brig