Canmol ysgol uwchradd am gefnogi addysg a lles

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20 Gorffennaf 2023
St Albans CYM NIMO

Mae ysgol uwchradd wedi cael ei chanmol am greu amgylchedd gofalgar a chynhwysol sy'n cefnogi addysg a lles ei disgyblion.

Yn ôl adroddiad gan yr arolygiaeth ysgolion, Estyn, mae gwerthoedd Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant, sef parch, cyfrifoldeb a gwydnwch yn sicrhau bod disgyblion yn cael yr addysg orau posibl. 

Roedd yr adroddiad, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, hefyd yn tynnu sylw at y berthynas waith gref sydd gan staff gyda’i disgyblion, yn ogystal â disgwyliadau uchel yr athrawon, sy'n cymell myfyrwyr i wneud cynnydd da.

Fe wnaeth yr arolygwyr ymweld â'r ysgol ym Mhont-y-pŵl ym mis Mai eleni, a dywedont fod y mwyafrif o ddisgyblion yn mwynhau bod yn yr ysgol ac yn ymgysylltu’n dda â’u haddysg.

Dywedodd yr adroddiad fod yr ysgol yn cynnig cwricwlwm cytbwys sy'n ystyried anghenion a diddordebau disgyblion, yn ogystal ag ystod ardderchog o weithgareddau sy’n cyfoethogi, a gweithgareddau allgyrsiol.

Roedd hefyd yn cydnabod y systemau cymorth cadarn sydd gan yr ysgol i gefnogi'r disgyblion hynny nad ydynt yn fodlon neu'n methu â dod i'r ysgol yn rheolaidd. Mae’r rhain yn cynnwys cyswllt rheolaidd â disgyblion y mae eu presenoldeb yn isel, ac ymyraethau i’r rheini sy’n Osgoi’r Ysgol am Resymau Emosiynol.

Wrth fynd ati i ganmol tîm arweinyddiaeth yr ysgol, dywedodd yr adroddiad: "Mae'r pennaeth, gyda chefnogaeth tîm arweinyddiaeth cadarn, yn rhannu’r un weledigaeth glir, sef uchelgais uchel, a llwyddiant i bawb.

"Mae bron i bob un o'r staff yn hyrwyddo'r weledigaeth hon ac yn atgyfnerthu gwerthoedd yr ysgol yn gyson. Mae hyn yn cyfrannu’n gryf at ethos Catholig, cynhwysol, ac un sy’n treiddio drwy bob agwedd ar fywyd ysgol.

"O ganlyniad, mae disgyblion yn mwynhau'r ysgol ac yn falch iawn o fod yn rhan o gymuned Alban Sant."

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir pa mod effeithiol yw arweinyddiaeth gref a chadarnhaol mewn ysgol.

"Mae’n hyfryd clywed bod cymaint o ddisgyblion yn Alban Sant yn cael eu hysbrydoli a’u hysgogi gan eu hathrawon angerddol a bod y gefnogaeth ar gael i’r myfyrwyr hynny sy’n cael trafferth ymgysylltu."

Argymhellodd yr adroddiad bod yr ysgol yn cynyddu'r ystod o gyfleoedd i ddisgyblion ymarfer y Gymraeg y tu allan i wersi a bod angen mynd ati i wella cyflwr yr adeilad.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/07/2023 Nôl i’r Brig