Haf o Hwyl gyda Chwarae Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 18 Gorffennaf 2023
Play Service

Mae cannoedd o weithwyr chwarae a gwirfoddolwyr yn paratoi ar gyfer rhaglen lawn o hwyl i blant dros wyliau’r haf.

O’r cynlluniau chwarae mynediad agored sydd wedi eu hen sefydlu, i wersylloedd chwarae a gweithgareddau a sesiynau chwarae a seibiant, amcangyfrifir y bydd Gwasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen yn cynnig 2080 awr o hwyl a gweithgareddau i dros 3000 o blant dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r cyfan yn rhan o Ŵyl Hwyl yr Haf y cyngor, a fydd yn gweld plant rhwng 5 a 12 oed yn cymryd rhan mewn gweithgareddau pob dydd, gan gynnwys celf a chrefft, chwaraeon tymhorol, gemau tîm a digon o ddewis o chwarae i’w cadw’n ffit ac yn iach. 

Yr wythnos nesaf, bydd dros 360 o staff a gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant i’w paratoi i ddelio â phob dim o fân-anafiadau i gecru rhwng plant. 

Dywedodd un o’r mamau, Kelly Longney: “Mae fy mab wedi bob yn mynychu yn Nant Celyn ers pan roedd yn bump oed ac mae’r staff wedi diwallu ei anghenion ac maen nhw’n wych. Rydym yn mynd i’r clybiau a chynlluniau chwarae’r gwyliau ac rydym wrth ein bodd gyda’r gwasanaeth yma.

“Byddwn yn siomedig iawn eleni pan fydd ein mab yn mynd i’r ysgol uwchradd oherwydd ni fydd y gwasanaeth anhygoel yma ar gael.  Diolch i Chwarae Torfaen am bob dim – rydych wir yn gwneud gwahaniaeth.”

Dywedodd Gweithiwr Chwarae, Maia Elsworthy, sydd wedi gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth am y ddwy flynedd ddiwethaf: “Rwy’n mwynhau gwirfoddoli’n fawr, mae’n fy nghadw’n ffit wrth i fi redeg o gwmpas yr holl amser gyda’r plant, ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael gwobr Gwirfoddolwr Chwarae Torfaen y Flwyddyn yn Chwefror eleni.”

Ychwanegodd Erin Walters: "Rwy’ wedi gwneud llawer o ffrindiau ac mae gwirfoddoli wedi fy helpu wrth ysgrifennu datganiad personol ar gyfer y Brifysgol oherwydd roeddwn i’n gallu siarad am weithio fel rhan o dîm, datrys problemau a manteision cadw plant yn heini ac yn iach.”

Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr y Gwasanaethau Chwarae yng Nghyngor Torfaen: "Rydym yn edrych ymlaen at wythnos wych yn hyfforddi’r staff a’r gwirfoddolwyr, a haf hyd yn oed gwell na blynyddoedd cynt. Mae’r staff a’r gwirfoddolwyr i gyd yn ysu am fynd a chynnig cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc ledled y fwrdeistref.

"Rwy’n gwybod ein bod ni’n mynd i gael haf i’w gofio, gyda llawer o wenu a chyfle i wneud ffrindiau."

Does dim angen bwcio lle ar gyfer gwersyll Gweithgareddau Stadiwm Cwmbrân a’r Cynlluniau Chwarae Mynediad Agored. Mae angen i rieni gwblhau’r broses gofrestru ar y diwrnod cyntaf y mae eu plentyn am fod yno.

I ddysgu sut all eich plentyn gymryd rhan yn rhaglen chwarae’r haf eleni, ewch at wefan Cyngor Torfaen neu Gysylltu Torfaen am y rhestrau diweddaraf.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/07/2023 Nôl i’r Brig