Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 7 Gorffennaf 2023
Mae dros 100 o ddisgyblion o ysgol yng Nghwmbrân wedi ymgyrchu i'r Senedd gyflwyno Bil Aer Glân yng Nghymru.
Dywedodd myfyrwyr o Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Blenheim Road a Choed Eva wrth aelodau Pwyllgor yr Amgylchedd a Seilwaith yn y Senedd fod llygredd aer yn bryder mawr i bawb.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod allyriadau CO2 o amgylch ysgolion yn effeithio'n uniongyrchol ar ansawdd aer ac iechyd plant wrth iddynt deithio i'r ysgol.
Dywedodd y disgyblion, fel ysgol eco sydd wedi ennill baner platinwm, pa mor bwysig yw cyflwyno deddfwriaeth i wella ansawdd aer ledled Cymru, yn eu barn nhw.
Meddai Scarlett, disgybl ym Mlwyddyn 2 yn Ysgol Coed Eva, "Gall pob un ohonom wneud newid mawr."
Ychwanegodd Jaxon, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Blenheim, " Mae gan lawer o fy ffrindiau asthma, felly rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr aer yn lanach yng Nghymru".
Dywedodd Paul Keane, Pennaeth Gweithredol, Ffederasiwn ysgolion Blenheim Road a Choed Eva: “Mae newid ein cymuned a'n gwlad er gwell drwy gyflwyno newidiadau bach yma ac acw yn ddyddiol, wedi grymuso ein dysgwyr i alw ar Lywodraeth Cymru am ddeddfwriaeth.
“Mae ein dysgwyr yn cymryd eu rôl fel dinasyddion Cymru a'r byd o ddifri, mae hwn yn gam pwysig yn eu taith i fod yn foesegol a gwybodus - un o ddibenion allweddol ein haddysg yma yng Nghymru. Mae annog disgyblion i gymryd rhan yn ein hysgol a'n cymuned ehangach yn ffordd wych o hyrwyddo manteision mynychu’r ysgol yn rheolaidd, fel yr amlygir yn yr ymgyrch Ddim Mewn Colli Mas.
“Fel ysgol, byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod lleisiau ein dysgwyr yn cael eu hadlewyrchu yn y bil aer glân arfaethedig sydd ar y gorwel.”
Mae'r ymgyrch yn un o'r ffyrdd y mae disgyblion yn yr ysgolion yn mynd ati i geisio lleihau llygredd yn eu cymunedau lleol.
Y llynedd, nhw oedd yr ysgolion cyntaf yn Nhorfaen i fabwysiadu Cynlluniau Teithio Lleson yn eu hysgolion i annog plant a staff i gerdded, beicio neu fynd ar gefn eu sgwter i’r ysgol.
Mae'r ysgol hefyd wedi cymryd rhan yn Wythnos Cerdded i'r Ysgol, sef menter i annog rhieni i adael eu cerbydau gartref.
Yn ogystal, mae pwyllgorau eco’r ysgolion wedi rhoi cyfle i bob disgybl flasu bara lawr, neu wymon, sy'n fwyd cynaliadwy, a hynny ochr yn ochr â chyflwyno dewis llysieuol a bar pasta i ffreutur yr ysgol.
Mae’r ysgolion wedi cyflwyno mesurau ychwanegol eleni i leihau gwastraff bwyd a chwtogi ar yr ynni a ddefnyddir.
Mae’r wythnos hon yn Wythnos Sero Net, sy’n dathlu ffyrdd o leihau allyriadau carbon a’u gwrthbwyso, i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Am weld beth mae Cyngor Torfaen yn ei wneud i leihau allyriadau carbon? Rhowch glic ar ein gwefan neu dilynwch #WythnosSeroNet ar Facebook, Instagram a Twitter.