Disgyblion cyntaf yn gadael Carreg Lam

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2023
Carreg Lam graduates

Heddiw, mae’r disgyblion cyntaf o Uned Drochi Iaith Gymraeg newydd Torfaen – Carreg Lam, wedi graddio.

Cwblhaodd naw o ddisgyblion y rhaglen addysg 12 wythnos o hyd, gan ddysgu’r iaith Gymraeg mewn ffordd strwythuredig ac arloesol.

Byddan nhw nawr yn ymuno â dosbarthiadau yn y brif ffrwd a byddan nhw’n parhau i gael cefnogaeth gan y ganolfan yn eu hysgolion cyn i’r disgyblion nesaf gyrraedd fis Medi.

Agorodd Carreg Lam, yn Ebrill, ac mae’n uned drochi hwyr i helpu dysgwyr 7 i 11 oed sy’n dod i addysg gyfrwng Cymraeg yn hwyrach.

Mae ar gael hefyd i ddisgyblion nad yw’r Gymraeg efallai wedi bod yn rhan o’u trefn ddyddiol, i gael y sgiliau a’r hyder y mae eu hangen i barhau i ddysgu yn Gymraeg.

Dywedodd Pennaeth Carreg Lam, Matthew Dicken-Williamson: “Heddiw, rydym ni wedi ymuno gyda’n gilydd i ddathlu llwyddiant naw o blant anhygoel.  Rydym hefyd yn cyfarfod i ddathlu cyfoeth a chydnerthedd yr iaith Gymraeg a phwysleisio pwysigrwydd dwyieithrwydd yn ein cymdeithas.

“Mae gan yr iaith Gymraeg le arbennig yn ein calonnau, oherwydd nid yw’n ffordd o gyfathrebu’n unig ond mae’n symbol o’n treftadaeth ddiwylliannol a’n hunaniaeth.”

Rhoddodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg dystysgrifau a phlaciau, i gydnabod eu hymrwymiad eithriadol a’u llwyddiannau.

Dywedodd y Cynghorydd Clark: "Rydw i am longyfarch y plant eithriadol yma am eu hymroddiad, eu hymrwymiad a’u llwyddiannau.

“Maen nhw wedi braenaru tir i genedlaethau’r dyfodol, gan osod safon uchel o ragoriaeth a dangos eu hun fel esiampl i eraill."

Hoffech chi wybod mwy am sut allai eich plentyn ddysgu Cymraeg,

Gallai Carreg Lam fod yr union beth i chi!

Cysylltwch â’r ganolfan trwy e-bostio carreg-lam@torfaen.gov.uk neu ewch at y wefan: www.carreg-lam.com

Diwygiwyd Diwethaf: 06/07/2023 Nôl i’r Brig