Arolygwyr Estyn yn tynnu sylw at welliannau mewn arweinyddiaeth

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2023

Yn ystod mis Mehefin, fe fu arolygwyr Estyn yn ymweld â chyngor Torfaen er mwyn cynnal ymweliad monitro ‘peilot’ i ddilyn ymlaen ar yr arolygiad craidd a gynhaliwyd fis Mawrth 2022.  

Roedd tîm Estyn ar y safle am ddeuddydd er mwyn ystyried cynnydd yn erbyn argymhelliad 4, sef ‘Gwella arweinyddiaeth strategol dysgu ac ADY’.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Rydyn ni wedi gwneud sawl newid o bwys ar lefel sefydliadol ac o ran personél, gan gynnwys integreiddio Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Blant ac Addysg i mewn i gyfarwyddiaeth newydd Plant a Theuluoedd o dan gyfarwyddwr strategol newydd. Rydyn ni hefyd wedi ailstrwythuro’r tîm arweinyddiaeth o fewn gwasanaethau addysg, gan benodi Cyfarwyddwr Addysg newydd; dau bennaeth gwasanaeth newydd; ac ailddiffinio rolau a chyfrifoldebau ar draws y gyfarwyddiaeth. Mae’n galonogol fod arolygwyr wedi cydnabod bod y cysylltiadau rhwng yr awdurdod lleol, ein hysgolion a’n partneriaid wedi cryfhau.”

Meddai Cyfarwyddwr Strategol Plant a Theuluoedd, Jason O’Brien: “Trwy ddadansoddi ystod o ddata ysgol-gyfan yn rheolaidd ac mewn ffordd gadarn, mae gennym ddarlun gwell o’n hysgolion. Mae hyn yn goleuo ein penderfyniadau am y modd yr ydym yn cefnogi ac yn ymyrryd, a ble’r ydym yn gwneud hynny, ac mae’n dechrau dangos buddion amlwg. Mae’n rhoi boddhad mawr i ni fod arolygwyr wedi gweld newid cadarnhaol yn y diwylliant, bod y berthynas rhwng y cyngor a’n hysgolion yn fwy agored a thryloyw a bod timau niferus o fewn y cyngor bellach yn cydweithio’n fwy i gefnogi ein hysgolion.”

Meddai Swyddog Gweithredol Torfaen, Stephen Vickers: “Rydyn ni wedi gwneud sawl newid pwysig yn ddiweddar er mwyn gwella arweinyddiaeth a pherfformiad. Mewn ambell faes mae’n rhy gynnar o hyd i ni allu mesur effaith y newidiadau diweddar hyn yn hyderus,  a dyma pam na fyddwn yn rhoi’r gorau i’n hymdrech gyson i wella. Fodd bynnag, mae’r adborth diweddaraf hwn yn cydnabod y gwelliannau a wnaed, a’n blaenoriaeth bob tro fydd gwella bywydau ein disgyblion sy’n eistedd mewn ystafelloedd dosbarth heddiw, a’u helpu nhw i ffynnu wrth dyfu’n oedolion.”

Cynhelir ymweliadau monitro pellach yn nhymor y gwanwyn a’r haf 2024.

Cliciwch yma i ddarllen llythyr monitro Estyn.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/07/2023 Nôl i’r Brig