Lansio Cynllun Benthyca iPad

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023
Ipad scheme

Gall trigolion yn Nhorfaen fynd ati nawr i fenthyg i-Pad o lyfrgell Cwmbrân, ar ôl i gynllun peilot newydd gael ei lansio yn y fwrdeistref heddiw.

Nod y Cynllun Benthyg i-Pad sy’n cael ei ariannu a’i rhedeg gan Ddysgu Oedolion a’r Gymuned yn Nhorfaen, yw helpu’r rheini sydd heb sgiliau na unrhyw fodd o fynd ar lein. Gwneir hyn drwy fenthyg i-Pad iddynt am gyfnod o bedair wythnos ar y tro.

Bydd tiwtoriaid sgiliau digidol wrth law bob dydd Mawrth yn y llyfrgell, a hynny o 9:30am tan 12:30pm, i helpu pobl i gychwyn arni, a chynnig cymorth digidol ehangach.

Er mai yn Llyfrgell Cwmbrân y mae’r prosiect yn cael ei dreialu i ddechrau, bydd y cynllun yn cael ei rhoi ar waith mewn llyfrgelloedd eraill yn ddiweddarach eleni.

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden: “Mae medru mynd ar-lein bron yn hanfodol y dyddiau yma gan fod llawer o wasanaethau'n llawer haws eu cyrraedd drwy'r we yn hytrach nag wyneb yn wyneb.

“Mae llawer ohonom yn cymryd hyn yn ganiataol; mae mor hawdd mewngofnodi a dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch, boed hynny'n gais am swydd, neu safle sy’n cymharu prisiau i leihau eich biliau cartref. Eto i gyd, mae pobl yn y fwrdeistref sydd wedi'u heithrio'n ddigidol a heb ffordd o fynd ar-lein.”

Yn gyntaf, bydd angen i ddefnyddwyr gwblhau cyfnod sefydlu i ddefnyddio’r ddyfais cyn i un gael ei fenthyg. 

I gael mwy o wybodaeth neu i gael gwybod mwy am y cynllun, ffoniwch dîm Dysgu Oedolion a’r Gymuned yn Nhorfaen ar 01633 647822.
Diwygiwyd Diwethaf: 28/02/2023 Nôl i’r Brig