Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau i gyflwyno 20mya

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023

Mae aelodau'r cabinet wedi cymeradwyo cynlluniau Cyngor Torfaen ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth 20mya newydd yn ddiweddarach eleni. 

O 17 Medi, 2023, bydd pob ffordd breswyl yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn 30mya yn ddiofyn, sef y rhai sydd â goleuadau stryd a heb arwyddion cyflymder - yn troi'n 20mya yn awtomatig.

Y nod yw lleihau cyflymder y traffig mewn ardaloedd adeiledig er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd i gerddwyr a beicwyr, yn enwedig plant.

Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn caniatáu i awdurdodau lleol ofyn bod rhai ffyrdd yn parhau i fod yn 30mya os ydynt yn bodloni’r meini prawf penodol, sef ychydig o dai neu ddim tai o gwbl, dim ysgolion neu ysbytai a dim ffactorau lleol eraill sy'n gwarantu terfyn cyflymder is.

Yn gynharach heddiw, cafodd aelodau'r cabinet wybod fod tîm priffyrdd y Cyngor wedi nodi 36 o eithriadau - ffyrdd maen nhw'n credu y dylai aros yn 30mya.

Maent wedi cynnig bod Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol yn cael eu rhoi ar waith ar hyd y llwybrau, a fydd wedyn yn cael eu hadolygu dros gyfnod o 18 mis i asesu a yw'r terfyn 30mya yn briodol, neu a ddylid ei ostwng i 20mya.

Cymeradwyodd aelodau'r cabinet y cam ond argymhellont fod y cynlluniau ar gyfer adrannau o'r B4246 a'r A4043 yn Abersychan yn cael eu hadolygu mewn ymgynghoriad ag aelodau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl yn gwneud ein strydoedd yn fwy diogel i blant a cherddwyr a beicwyr eraill. Bydd yn helpu i leihau'r risg o ddamweiniau a'r risg o anaf difrifol os bydd damwain yn digwydd. 

“Rydym hefyd yn gobeithio drwy orfodi ceir i deithio’n arafach, y bydd mwy o bobl yn ystyried cerdded neu feicio o amgylch eu hardaloedd lleol. Bydd hyn o fudd i iechyd pobl ac yn well i'r amgylchedd."  

Yn ôl yr adroddiad, mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus leol a thimau’r cyngor fel y gwasanaeth prydau cymunedol a gofal cartref, i asesu effaith posib ar wasanaethau.

Maen nhw hefyd wedi cwrdd â Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac awdurdodau eraill Gwent, gan gynnwys Cyngor Sir Fynwy, a fu'n treialu ardaloedd 20mya yn ddiweddar.

Gallwch gael gwybod mwy am gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ein gwefan. Gallwch hefyd gael gwybod mwy am lwybrau teithio llesol yn eich ardal chiyma.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/05/2023 Nôl i’r Brig