Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Chwefror 2023
Bydd pum ffordd ar gau dros dro yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn mynd ati mewn ffordd ddiogel i dynnu coed sydd wedi'u heintio ar hyd rhai o'r prif lwybrau yn Nhorfaen.
Mae clefyd coed ynn wedi heintio coed ynn ledled y wlad a’u gwneud yn ansefydlog, sydd yn ei dro yn arwain at ganghennau rhydd sydd yn disgyn ymhen amser. Mae rhaglen waith uchel ei blaenoriaeth yn mynd rhagddi i leihau'r risgiau i'r cyhoedd, drwy gael gwared ar goed sydd wedi'u heintio, a mynd ati ar yr un pryd i docio unrhyw beth o fewn 2 fetr i ymylon ffyrdd.
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud yn ystod y nos er mwyn peidio â tharfu’n ormodol ar breswylwyr a modurwyr. Nid yw'r rhan fwyaf o'r mannau dan sylw yn agos at eiddo preswyl ond yn y mannau hynny sy’n agos at gartrefi, bydd y contractwyr yn gwneud pob ymdrech i wneud cyn lleied o sŵn â phosibl. Mae’r Cyngor yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra.
Bydd yr holl goed sy’n cael eu torri yn cael ei malu ar y safle a’u cludo i ffwrdd i gael eu hailgylchu.
Mae'r gwaith yn mynd rhagddo nawr, cyn dechrau’r tymor nythu, a hynny ar gyngor ecolegydd Cyngor Torfaen. Bydd y contractwyr hefyd yn chwilio am unrhyw dystiolaeth bod adar wedi dechrau nythu yn gynnar cyn torri unrhyw goed.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Nid ydym yn hoffi torri coed oni bai bod rhaid i ni wneud hynny, oherwydd eu holl fanteision.
"Yn anffodus, mae nifer fawr o goed ynn ar hyd nifer o ffyrdd wedi mynd yn ansefydlog oherwydd y clefyd, felly mae'n rhaid i ni eu tynnu nhw i gadw'r priffyrdd a’r rheini sy’n eu defnyddio, yn ddiogel.
"Oherwydd natur clefyd coed ynn, dydyn ni ddim yn siŵr pryd y bydd canghennau'n dechrau disgyn i ffwrdd felly rydyn ni'n bod yn rhagweithiol i sicrhau diogelwch y bobl sy’n defnyddio ein ffyrdd.
“Bydd tynnu'r coed hyn yn ysgogi’r rhywogaethau eraill sydd ar ôl, i dyfu, gan arwain at ddisodli'r canopi coed dros ychydig flynyddoedd. Mewn achosion o'r fath, ni fyddai angen ailblannu'r coed a gollwyd. Fodd bynnag, os bydd bylchau mawr yn bodoli, efallai y byddwn yn ystyried plannu coed newydd o rywogaeth briodol. Efallai’n wir mai hyn fydd yr achos ar hyd Foundry Road, ble mae hyn yn effeithio ar ardal sylweddol o goetir..
“Gwyddwn pa mor angerddol yw rhai o'n preswylwyr dros fioamrywiaeth, felly rwyf am dawelu’ch meddyliau, nad penderfyniad hawdd oedd cael gwared ar y coed yma ar hyd Cwmbran Drive.”
Dysgwch mwy am glefyd coed ynn yma.
Bydd y ffyrdd a ganlyn ar gau:
Cwmbran Drive
Dydd Sul 19 - ddydd Gwener 24 Chwefror, rhwng 8pm a 6am. Bydd A4051 Cwmbran Drive ar gau o’r pwynt mwyaf deheuol ger Ysgol Rougement i gylchfan Henllys Way/Stadiwm Cwmbrân, a rhwng cylchfan Parkway a chylchfan Henllys Way.
Cwmavon Road
Dydd Mercher 22 Chwefror – ddydd Gwener 3 Mawrth, bydd mannau amrywiol o’r ffordd rhwng Pont-y-pŵl a Blaenafon ar gau rhwng 8pm a 6am
Hafodrynys Road
Dydd Llun 20 – ddydd Gwener 31 Mawrth bydd rhannau amrywiol rhwng cylchfan ‘y cwch’ Pont-y-pŵl a ffin Torfaen/Caerffili, ar gau rhwng 8pm a 6am.
Tra bod gwaith yn mynd rhagddo, bydd y ffyrdd uchod ar gau am gyfnodau yn ystod yr amseroedd a nodir. Bydd dargyfeiriadau ar waith, a bydd mynediad ar gael bob amser i breswylwyr a busnesau yn ôl yr angen yn y parthau caeedig.
Bydd y contractwr yn defnyddio rhan o Faes Parcio Stryd Trosnant Pont-y-pŵl i storio naddion coed. Er nad yw'r rhan fwyaf o'r ardaloedd yn agos at eiddo preswyl, mae yna nifer fach o dai yn y cyffiniau, felly fe allai pobl glywed rhywfaint o sŵn. Er y bydd y contractwyr dan sylw yn gwneud pob ymdrech i wneud cyn lleied o sŵn â phosibl, lle nad oes modd osgoi hyn, ymddiheurwn am unrhyw aflonyddwch.