Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Chwefror 2023
Mae arolygwyr ysgolion wedi canmol staff a disgyblion ysgol gynradd yn Nhorfaen am greu "amgylchedd parchus, meithringar a chynhwysol ".
Ymwelodd arolygwyr Estyn ag Ysgol Gynradd New Inn yn Nhachwedd a chyhoeddon nhw eu hadroddiad yn ddiweddar.
Ynddo, dywedon nhw bod disgyblion "yn mwynhau mynychu’r ysgol yn fawr" ac maen nhw’n awyddus i siarad ag ymwelwyr ac yn siarad yn hyderus am eu dysgu a bywyd yr ysgol yn ehangach .
Ychwanegon nhw: "Mae disgyblion yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel ac yn dysgu’n gynnar iawn sut i gymryd cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd a sut i ofalu am eraill. Maen nhw’n gwybod at bwy ddylen nhw droi pan fo angen help arnyn nhw mewn unrhyw sefyllfa.
"Mae’r ysgol yn gosod pwysigrwydd ar les y gymuned ysgol gyfan ac mae staff yr ysgol yn gweithio’n dda gyda’i gilydd i greu amgylchedd parchus, meithringar a chynhwysol. Mae’r ethos yn cael ei adlewyrchu’n arbennig yn y perthnasau cynnes a chadarnhaol rhwng staff a disgyblion."
Ychwanegodd yr adroddiad fod staff yn yr ysgol, ar Golf Road, Y Dafarn Newydd, sydd â 598 o ddisgyblion ar y gofrestr, yn ymgysylltu â disgyblion trwy amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau diddorol ac mae disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan anfantais gymdeithasol yn gwneud cynnydd da.
Dywedodd Kate Prendergast, Pennaeth yn Ysgol Gynradd New Inn, "Yn ystod fy amser fel Pennaeth, rydw i wedi cael cymaint o foddhad o symud yr ysgol i ffwrdd o fonitro gan Estyn yn ôl yn 2015 a mynd â’r ysgol o’r categori oren i’r categori gwyrdd.
"Mae’r adroddiad yn dathlu llwyddiannau lu’r ysgol ac mae’n cydnabod y gwelliannau ers yr arolwg diwethaf. Rydym wrth ein bodd bod Estyn wedi cydnabod yr amgylchedd gofalgar a chynhwysol yr ydym wedi ei greu a systemau effeithiol o gefnogaeth yr ydym wedi eu sefydlu, sy’n caniatáu i ddisgyblion i ffynnu yn Ysgol Gynradd New Inn.
"Fel yr ysgol gynradd fwyaf yn Nhorfaen, mae gennym bron i 600 o ddisgyblion ar y gofrestr ac mae ymddygiad yn ardderchog trwy’r ysgol gyfan; mae ein disgyblion yn dangos parch at ei gilydd ac at staff. Nododd Estyn fod disgyblion yn falch o berthyn i Ysgol Gynradd New Inn a bod y staff yn gweithio’n galed iawn i wneud yr ysgol cystal ag y gall fod."
"Mae taith gwelliant yr ysgol wedi bod yn ymdrech tîm ac mae cyrraedd y safon uchel yma wedi cymryd amser, ymrwymiad ac ymroddiad. Rwy’n hynod o falch o fod yn arwain tîm mor gryf ac mor ddiolchgar i’r llywodraethwyr am eu cefnogaeth werthfawr. Byddwn yn gweithredu nawr ar gyngor Estyn ac yn paratoi cynllun gweithredu ôl-adolygiad i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad."
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Addysg: "Mae hwn yn adroddiad da iawn gan Estyn sy’n canmol y Pennaeth a thîm ymroddedig o staff yr ysgol.
"Mae’n cydnabod y cyfleoedd y mae disgyblion yn eu cael i gyfrannu at fywyd yr ysgol a’r gymuned ehangach, fel gwaith fel llysgenhadon elusennol, pwyllgor eco a senedd y disgyblion."
Cafodd yr ysgol arolwg ddiwethaf ym Mawrth 2014.
Rhoddodd yr adroddiad diweddar argymhelliad bod yr ysgol yn cymryd camau i fireinio prosesau hunanwerthusiad a gwelliant er mwyn canolbwyntio’n fwy penodol ar effaith addysgu ar ddysgu; gwella ansawdd yr adborth i gefnogi disgyblion yn well i ddeall eu camau nesaf mewn dysgu; gwella’r ddarpariaeth i gefnogi disgyblion i ddefnyddio’u sgiliau rhifedd ac ysgrifennu mewn ffordd greadigol ar draws y cwricwlwm ac ymestyn cyfleoedd i ddisgyblion wneud dewisiadau am ddysgu’n gynyddol annibynnol.