Awdur lleol yn canmol y gwasanaeth llyfrgell

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 9 Chwefror 2023
Jon Jenner Torfaen Libraries

Mae awdur wedi cyflwyno ei lyfr cyntaf i Lyfrgelloedd Torfaen ar ôl derbyn cymorth TG gan staff yn Llyfrgell Cwmbrân yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Cafodd John Jenner, 66 oed o Groesyceiliog, ei ysbrydoli i ysgrifennu stori ar ôl cymryd rhan mewn cystadleuaeth papur newydd i nofelwyr oedd heb gyhoeddi o’r blaen.

Roedd John, cyn-ddiddanwr a gweithiwr ffatri, eisoes yn mynychu’r llyfrgell yn rheolaidd i ddefnyddio'r cyfrifiaduron, felly roedd yn gwybod y byddai'r staff wrth law i’w helpu.

Dywedodd: “Pryd bynnag y byddai unrhyw beth yn mynd o’i le, ac roedd hynny’n digwydd yn aml, roeddwn yn gallu galw am gymorth llyfrgellydd. Fe wnaethon nhw fy helpu cymaint, a hynny gyda hiwmor ac amynedd, a llwyddais i gyrraedd diwedd y fenter.

“Defnyddiais bob un o'r llyfrgelloedd hefyd i ymchwilio i wybodaeth ar gyfer rhai o'r darnau gwaith yr wyf wedi bod yn rhan ohonynt mewn prosiectau eraill.”

Mae Llyfrgelloedd Torfaen yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gwahanol, gan gynnwys mynediad at gyfrifiaduron, cysylltiad diwifr am ddim, grwpiau darllen a chymorth TG gan staff.

I ddarpar awduron fel John, mae'r gwasanaeth llyfrgell hefyd yn cadw amrywiaeth o lyfrau i helpu gyda phob cam o'r broses ysgrifennu.  

Ysgrifennodd John stori fer ar gyfer cystadleuaeth y Daily Mail, ac fe wnaeth y broses ei ysbrydoli i orffen stori yr oedd wedi dechrau ei hysgrifennu flynyddoedd yn ôl.

Cafodd ei nofel The Legacy of Joe Farr ei chyhoeddi yr wythnos hon a bydd ar gael yn Llyfrgelloedd Torfaen nes ymlaen yn y flwyddyn.

Meddai: “Stori sy’n cyfuno dirgelwch ac arswyd yw hi, un sôn am ymbellhau ymysg aelodau teulu a chariadon. Un o fy hoff awduron yw Thomas Harris, awdur llyfrau Hannibal Lecter.”  

Yn ogystal â bod yn awdur brwdfrydig, mae John hefyd yn actor a gwneuthurwr ffilmiau profiadol. Y mae hefyd wedi ymddangos mewn pum pennod o Dr Who a chwarae rôl arweiniol yn y ffilm Reaching Higher yn 2008.

Ychwanegodd: “Yn naturiol, buaswn wrth fy modd petai un o fy lyfrau yn cael eu portreadu mewn ffilm neu gyfres deledu.

“Fy ngobaith yw denu nid yn unig cynulleidfa fawr i ddarllen y stori, ond hefyd denu sylw cwmni teledu fel BBC Wales – gyda’r posibilrwydd y byddent yn mynd ati i greu ffilm.”

Ers cyhoeddi ei lyfr cyntaf, mae John wedi mynd ymlaen i ysgrifennu pedair nofel arall o fewn cyfnod o flwyddyn.

I ymuno â’r llyfrgell heddiw, neu i gael gwybod mwy am y gwasanaethau sydd ar gael ar eich cyfer, ewch i wefan Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2023 Nôl i’r Brig