Wedi ei bostio ar Dydd Iau 14 Rhagfyr 2023
Mae Ysgol Gynradd New Inn wedi derbyn gwobr Aur fawreddog Ysgolion sy'n Parchu Hawliau, gan UNICEF y DU.
Mae'r wobr yn cydnabod ymrwymiad yr ysgol i hyrwyddo a gwireddu hawliau plant a phobl ifanc, fel y nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Ysgol Gynradd New Inn yw'r ysgol gyntaf yn Nhorfaen i dderbyn y wobr, ac un o bedair ysgol yn unig yn ardal consortia’r GCA.
Mae'r ysgol wedi bod yn gweithio tuag at y wobr ers pum mlynedd, ar ôl ennill y gwobrau efydd ac arian am ymgorffori hawliau'r plentyn ar draws y cwricwlwm, ethos a diwylliant yr ysgol gyfan.
Yn y cyfnod hwnnw mae cymuned yr ysgol gyfan wedi cydweithio ar lawer o brosiectau sy'n seiliedig ar hawliau, gan gynnwys creu calendr pwrpasol ‘Hawliau drwy'r Misoedd’, cylchlythyrau sy’n cael eu rhannu gyda'r gymuned a threfnu digwyddiadau codi arian.
Mae llawer o'r gwaith yn Ysgol Gynradd New Inn wedi cael ei lywio gan y grŵp Disgyblion Arweiniol sef y ‘The Rights Knights’, grŵp o ddisgyblion o Flynyddoedd 2 -6, sy’n gyfrifol am ddatblygu’r hyn y mae plant yn ei ddeall fel ‘Rhai sydd â hawliau’ ac oedolion sy’n ‘Gyfrifol am Gyflawni’r Ddyletswydd’.
Mae'r grŵp yn aml yn arwain gwasanaethau ac yn paratoi cyflwyniadau i staff, Llywodraethwyr, ysgolion sy'n ymweld ag asiantaethau allanol eraill.
Un digwyddiad llwyddiannus oedd apêl y Nadolig 'Tun ar y Wal' a gefnogodd grŵp cymuned lleol ‘Grŵp Rhannu Bwyd Tŷ Panteg’ i helpu teuluoedd ac unigolion sy’n wynebu caledi, drwy ddosbarthu pecynnau bwyd mewn argyfwng.
Roedd Apêl 'Tun ar y Wal' yn hyrwyddo Erthygl 24 'Yr hawl i ofal iechyd o ansawdd da, i ddŵr glân a bwyd da.
Ym mis Hydref, fe wnaeth asesydd UNICEF UK ymweld â’r ysgol a chanmol y dystiolaeth gref o ddysgu ac addysgu seiliedig ar hawliau, cyfranogiad a llais disgyblion, yr effaith gadarnhaol ar gymuned yr ysgol a'r gymdeithas ehangach.
Cafodd y staff eu canmol hefyd am eu cydweithio effeithiol a rhannu arfer da gydag ysgolion a sefydliadau eraill yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru.
Meddai Kate Prendergast, Pennaeth: “Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr hon, sy'n adlewyrchu ein hymroddiad i greu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a pharchus i’n holl ddisgyblion. Rydym yn hynod falch o Mrs Mann a’r Rights Knights ac mor falch bod eu gwaith caled a'u hymroddiad wedi cael eu cydnabod fel hyn.
“Yn Ysgol Gynradd New Inn, credwn, drwy rymuso ein disgyblion i wybod ac arfer eu hawliau, ein bod hefyd yn rhoi’r sgiliau a’r gwerthoedd iddynt i ddod yn ddinasyddion cyfrifol a gweithgar yn y dyfodol. Yn y dyfodol byddwn yn parhau â'n gwaith gydag UNICEF UK gan ymdrechu i gynnal a datblygu ymhellach ein harfer a'n hethos o barchu hawliau.”
I ddathlu'r llwyddiant, derbyniodd yr ysgol dystysgrif a baner gan UNICEF UK.
Ar hyn o bryd 38 o ysgolion yn unig yng Nghymru sydd wedi cyrraedd y safon hon.
I gael mwy o wybodaeth am Wobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau, ewch i:
The Rights Respecting Schools Award | UNICEF UK