Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Rhagfyr 2023
Os ydych chi'n coginio cinio Nadolig eleni, meddyliwch am wasanaeth arlwyo ysgolion Cyngor Torfaen sydd wedi gweini dros 7,000 o giniawau twrci y mis hwn!
Mae'r tîm wedi paratoi miloedd o giniawau Nadolig, gyda’r holl drimins, a phwdin, i aelodau staff a disgyblion ymhob un o’r 26 o ysgolion cynradd yn y fwrdeistref a thair ysgol uwchradd.
Nadolig yw pryd bwyd mwyaf poblogaidd y gwasanaeth arlwyo, ond gweinwyd hyd yn oed mwy o giniawau eleni ar ôl cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob grŵp blwyddyn yn yr ysgolion cynradd.
Dywedodd Niamh, Ollie, sydd ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Gwynllew: “Roedd y cinio nadolig yn braf iawn, yn enwedig y selsig a bacwn – hoffwn gael mwy ohonyn nhw!”
Ychwanegodd Ella, sydd ym Mlwyddyn 11: “Roeddwn i’n dwlu ar fwyta gyda ffrindiau ac yn cael amser i ymlacio dros bwyd.”
Dywedodd Tracy James, Uwch Reolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Arlwyo Torfaen,: "Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol o brysur i'r tîm arlwyo, wrth i ni gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, ond, fe wnaeth y staff dal i lwyddo’n aruthrol i gyflawni’r dasg a pharatoi miloedd o giniawau Nadolig blasus.
"Gwnaethant hefyd ddarparu mwy na 270 o giniawau ar gyfer disgyblion â gofynion dietegol arbennig i sicrhau y gallai pawb fwynhau'r hwyl Nadoligaidd.
"Hoffwn ddiolch i'n timau arlwyo, a staff yr ysgol sy'n cefnogi plant yn ystod amser cinio i’w helpu i fwyta’u bwyd."
Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: " Hoffwn ddiolch i'n gwasanaeth arlwyo arobryn am eu gwaith gwych yn ein hysgolion y mis hwn – a thrwy gydol y flwyddyn."