Cystadleuaeth cerdyn Nadolig yn denu'r nifer uchaf erioed

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 14 Rhagfyr 2023
winners

Mae cystadleuaeth flynyddol i greu cerdyn Nadolig, sy'n cael ei chynnal gan Wasanaeth Chwarae Torfaen a dau gyngor cymuned wedi denu 500 o gystadleuwyr, sef y nifer uchaf erioed. 

Yr wythnos hon, aethpwyd ati i lunio rhestr fer, a gwahoddwyd 32 o blant i ddigwyddiadau dathlu yn swyddfeydd Cyngor Cymuned Cwmbrân a Phont-y-pŵl, lle cawsant eu cyflwyno â phecynnau Chwarae Torfaen a siocledi.

Bydd dyluniadau’r enillwyr Emily Stott, 8 oed, o Ysgol Gynradd New Inn, a Rosy Ryan, 6 oed o Ysgol Gynradd Llantarnam, yn cael eu defnyddio i greu cardiau, a bydd y Gwasanaeth Chwarae yn eu hanfon at yr holl blant a gymerodd rhan. 

Daw hyn wrth i'r Gwasanaeth Chwarae gyhoeddi cyfres o sesiynau newydd yn y Flwyddyn Newydd, yn cynnwys gwersyll Chwarae a Gweithgareddau yn Stadiwm Cwmbran a sesiynau Chwarae a Seibiant, bydd yn cael eu cynnal rhwng y 3ydd a’r 5ed o Ionawr.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Roedd yn wych gweld cymaint o ddyluniadau creadigol gan y plant, a’u gweld yn cael eu troi’n gardiau Nadolig. Da iawn bawb a gymerodd rhan!

“Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn cynnig cyfleoedd chwarae cynhwysol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc yn unol â gweledigaeth y cyngor i sicrhau bod Torfaen yn fan lle mae pawb yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd."

Cyflwynwyd y gwobrau  gan Gaynor James, Arweinydd Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl a’r Cynghorydd Leanne Lloyd-Tolman, Arweinydd Cyngor Cymuned Cwmbrân.

Meddai’r Cyng. Lloyd-Tolman: “Roeddwn yn falch iawn o gael fy ngwahodd i feirniadu’r gystadleuaeth. Roedd hi'n anodd iawn gan fod safon y cystadlu yn anhygoel, fe ddangosodd wir ddoniau’r bobl ifanc yng Nghwmbrân.”

Ychwanegodd y Cyng. Gaynor James: “Credaf ei fod yn wych bod Chwarae Torfaen wedi trefnu cystadleuaeth Cerdyn Nadolig. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn yr holl ddyluniadau buddugol a’r ffaith eu bod yn cael eu troi’n gardiau Nadolig.  Fel arweinydd, pleser o’r mwyaf oedd cwrdd â’r holl gystadleuwyr a gweld y campweithiau buddugol. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd rhan.”

Mae’r sesiynau Chwarae a Gweithgareddau yn Stadiwm Cwmbrân i blant rhwng 8 a 12 oed. Bydd y sesiynau Chwarae a Seibiant, i blant rhwng 5 a 18 oed, yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau yn y fwrdeistref.

I gael gwybodaeth, cysylltwch ar torfaenplay@torfaen.gov.uk neu ewch i Chwarae Torfaen Play ar Facebook a @Torfaenplayserv ar Twitter.
Diwygiwyd Diwethaf: 14/12/2023 Nôl i’r Brig