Ysgolion wedi'u pweru gan yr haul

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Rhagfyr 2023

Gosodwyd paneli solar ar 14 o ysgolion ar draws y Fwrdeistref gan arbed cannoedd o filoedd o bunnau ar drydan. 

Gosodwyd y paneli dros yr 8 mis diwethaf, ac mae’n golygu bod nifer y safleoedd sy’n eiddo i’r Cyngor ac sydd â phaneli solar, nawr yn 24.

Rhagwelir y bydd y 14 o systemau paneli solar a osodwyd yn arbed rhwng £150,000 a £200,000 ar gostau trydan bob blwyddyn, ynghyd â 500,000 kWh o ynni. Rhagwelir hefyd y bydd yn atal 117 tunnell o garbon deuocsid – un o’r elfennau arweiniol sy’n cyfrannu at gynhesu byd-eang - rhag cael eu rhyddhau.  

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn uchel ar agenda’r Cyngor, ac felly roeddem ni wrth ein boddau i glywed bod 14 o ysgolion wedi gallu cael paneli solar wedi eu gosod. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf efallai y bydd 19 o ysgolion pellach yn addas ar gyfer paneli solar hefyd. 

“Mae ein tîm ynni hefyd yn edrych ar osod mannau gwefru cerbydau trydan, sicrhau bod gan ysgolion oleuadau LED, a gosod pympiau gwres mewn safleoedd addas.” 

Gosodwyd y paneli solar yn Ysgol Gynradd Coed Eva; Ysgol Uwchradd Cwmbrân; Ysgol Gynradd Garnteg; Ysgol Gynradd George Street; Ysgol Gynradd Greenmeadow; Ysgol Gynradd New Inn; Ysgol Gynradd Nant Celyn; Ysgol Gynradd Padre Pio; Ysgol Gynradd Penygarn; Ysgol Gynradd Pontnewydd; Ysgol Gorllewin Mynwy, Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands, Ysgol Abersychan ac Ysgol Gyfun Gwynllyw. 

Mae Cyngor Torfaen wedi defnyddio benthyciad gan Lywodraeth Cymru i dalu’r gost o £1.2m ar gyfer gosod y paneli solar, a bydd yr ysgolion yn ad-dalu’r benthyciad dros yr wyth mlynedd nesaf.  Mae’r ysgolion eisoes yn gweld gostyngiad yn eu biliau ynni ar gyfer y systemau a osodwyd.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Gynllun Sirol y Cyngor i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, ac i wella’r amgylchedd lleol. Darllenwch y Cynllun Sirol am ragor o wybodaeth.   

Rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Torfaen yn bwriadu lleihau allyriadau carbon. Cliciwch yma i ddarllen Cynllun Gweithredu’r Argyfwng Hinsawdd a Natur

Diwygiwyd Diwethaf: 08/12/2023 Nôl i’r Brig