Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Awst 2023
Mae teuluoedd plant a aeth i wersylloedd Bwyd a Hwyl Cyngor Torfaen dros yr haf wedi cael blychau bwyd yn cynnwys amrywiaeth o eitemau hanfodol.
Rhoddwyd cyfanswm o 1,400 o flychau'r wythnos yma, diolch i Wasanaeth Chwarae’r cyngor ac arian gan Lywodraeth Cymru.
Aeth mwy na 1,600 o blant i’r gwersylloedd Bwyd a Hwyl, sydd wedi bod yn digwydd mewn 13 o ysgolion ar draws y fwrdeistref yn ystod y pedair wythnos diwethaf. Roedd y gwersylloedd ar agor i ddisgyblion yr ysgolion yn ogystal ag eraill.
Cafodd pob plentyn frecwast a chinio maethlon trwy law gwasanaeth arlwyo’r cyngor, a ddarparodd mwy na 28,000 o brydiau.
Cafodd y plant gyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau’n gysylltiedig â chwarae, maeth, gweithgaredd corfforol, lles ac ymwybyddiaeth ofalgar trwy Wasanaeth Chwarae’r cyngor.
Roedd y gwersylloedd Bwyd a Hwyl yn rhan o Ŵyl Hwyl yr Haf Torfaen gyda’r Gwasanaeth Chwarae, sy’n dod i ben heddiw. Roedd yna hefyd Gynlluniau Chwarae Mynediad Agored yn ddyddiol a sesiynau Chwarae yn y Parc.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, “Ces i’r fraint o fynd o gwmpas cynlluniau Chwarae Torfaen dros yr haf yr wythnos diwethaf a chefais fy synnu o weld nifer y plant oedd yn ymwneud â’r holl weithgareddau.
"Rydym mor falch o’n gwirfoddolwyr sydd wedi helpu i gael hyn i ddigwydd dros yr haf. Da iawn, bawb! Haf anhygoel unwaith eto!”
I nodi diwedd Gŵyl Hwyl Haf Torfaen, byddwn yn diolch i’r cannoedd o staff y Gwasanaeth Chwarae a’r gwirfoddolwyr mewn seremoni yn Theatr Congress ddydd Gwener.
Dywedodd Julienne Davenne, rheolwr y Gwasanaeth Chwarae: "Mae e wedi bod yn haf anhygoel arall ac rydym wedi cael y pleser o weithio gyda channoedd do blant ledled y fwrdeistref.
"Ond ni fyddem yn gallu gwneud dim o hyn heb ein staff a gwirfoddolwyr anhygoel ac rwy’n edrych ymlaen at ddiolch i bob un ohonyn nhw yn ein seremoni yfory."
Am fanylion ynglŷn â sut allwch chi gymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol gyda’r Gwasanaeth Chwarae, ewch at ein gwefan.