Myfyrwyr Gwynllyw yn cael eu dewis cyntaf

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 17 Awst 2023
A Levels Callum

Mae myfyrwyr Lefel A Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn dathlu wedi i bob ohonynt sicrhau lle yn y brifysgol o’u dewis.

Fel Callum Negrotti, a gafodd a A*ac C gan sicrhau lle yn King’s College, Llundain, ym mis Medi, i astudio astroffiseg a chosmoleg.

Meddai Callum: “Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael lle yn King’s – rydw i eisiau bod yn astroffisegydd a, gobeithio, gweithio i NASA rhyw ddydd.”

Ac yna Mali Wood, sy’n mynd i Rydychen i astudio cerddoriaeth ar ôl cael pedair gradd A. Meddai Mali: “Rydw i wir eisiau mynd ar drywydd fy angerdd dros gerddoriaeth a dod yn gerddor.”

Meddai’r Pennaeth, Mark Jones: “Mae’n bleser gweld bod pob un o’n dysgwyr ym Mlwyddyn 13 wedi llwyddo i ennill lle yn y prifysgolion a oedd yn ddewis cyntaf iddynt.

“O feddwl mai dyma’r flwyddyn gyntaf i fyfyrwyr sefyll arholiadau allanol oherwydd Covid, mae’n braf gweld bod yr effaith ar eu canlyniadau wedi bod yn finimal. Dymunaf y gorau iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol.”

Yng Ngholeg Gwent, sy’n cynnwys Parth Dysgu Torfaen, enillodd 97 y cant o fyfyrwyr Lefel A raddau rhwng A* ac E, gydag 88 y cant o fyfyrwyr BTEC yn llwyddo neu’n cael gradd uwch ar draws 48 pwnc galwedigaethol gwahanol.

Cafodd y fyfyrwraig Amy Louise White un radd A* a dwy radd B yn ei harholiadau Lefel A ac mae’n bwriadu dechrau cynllun prentisiaeth peirianneg meddalwedd gyda Sony.

Meddai: “Wedi i mi gwblhau fy mhrentisiaeth, rwy’n gobeithio dilyn gyrfa yn y cwmni ac, o bosibl, mynd i faes addysgu prentisiaethau yn y dyfodol — gyda’r nod o ysbrydoli mwy o fenywod ifainc i ddilyn gyrfa ym maes cyfrifiaduron.”

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr i gyd, a’u teuluoedd, a dymunaf bob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol cyffrous sydd o’u blaenau.”

Diwygiwyd Diwethaf: 17/08/2023 Nôl i’r Brig