Mwy o blant i elwa o Brydiau Ysgol am Ddim

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Awst 2023
free school meals

O Fedi ymlaen, bydd 4,000 o blant ysgol gynradd yn Nhorfaen yn gallu derbyn Pryd Ysgol Gynradd i Bawb am ddim.

Mae’n rhan o gynnig Prydiau Ysgol am Ddim i Bawb gan Lywodraeth Cymru sy’n gofyn bod ysgolion cynradd ledled Cymru’n cynnig pryd am ddim i bob blwyddyn gynradd erbyn Medi 2024.

Daeth Prydiau Ysgol am Ddim i Bawb ar gael ym Medi llynedd i ddisgyblion iau yn y dosbarth derbyn a blynyddoedd 1 a 2 yn Nhorfaen.

Gall teuluoedd sydd yn draddodiadol wedi bod yn gymwys i gael prydiau ysgol am ddim ar sail prawf modd barhau i gael cymorth ychwanegol, fel y Grant Hanfodion Ysgol, ond mae’n rhaid iddyn nhw wneud cais i’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae ymchwil helaeth yn cadarnhau bod pryd maethlon yn gwella’n sylweddol gallu plentyn i ddysgu.  Tra bod clybiau brecwast eisoes wedi cael effaith cadarnhaol, mae’r cynllun yma’n gam trawsnewidiol.

“I deuluoedd sydd efallai heb fod yn gymwys o’r blaen am brydiau ysgol am ddim ar sail prawf modd ac sydd wedi wynebu heriau’r cynnydd mewn prisiau bwyd, mae’r cynllun yma’n cynnig cysur bod eu plant yn derbyn pryd maethlon i’w paratoi i gymryd rhan mewn ffordd weithgar mewn gwersi."

Mae mwy o fanylion am Brydiau Ysgol am Ddim i Bawb am ddim yn www.torfaen.gov.uk/ neu drwy ffonio 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/08/2023 Nôl i’r Brig