Ysgol yn ennill gwobr am ffilm ddigidol

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 27 Ebrill 2023
Griff-Primary-Award

Mae tîm o ddisgyblion ysgol gynradd ym Mhont-y-pŵl wedi dod yn drydydd mewn cystadleuaeth genedlaethol i gynhyrchu fideo i hyrwyddo diogelwch ar y rhyngrwyd.

Fe fu aelodau Clwb Arweinwyr Digidol Ysgol Gynradd Griffithstown yn cystadlu yn erbyn 40 ysgol yng Nghymru yng nghystadleuaeth genedlaethol Ffilm ‘Diwrnod Defnyddio’r Rhyngwyd yn Fwy Diogel’ Hwb.

Enw eu fideo oedd Harry Tiktoker and the Digital Wizard World ac mae ar gael nawr er mwyn i ysgolion eraill ei defnyddio, ar blatfform dysgu digidol Hwb.

Meddai Scarlette Smith, disgybl o Flwyddyn 6 ac arweinydd digidol sy’n chwarae rhan Hermione Facebook: "Roedd e’n dipyn o hwyl oherwydd roedden ni’n cael gweithio fel tîm i ysgrifennu sgript ac roedd e’n ddiddorol oherwydd roedd e’n rhywbeth nad ydyn ni wedi ei wneud o’r blaen ".

Ychwanegodd Finley Nicholls, disgybl o Flwyddyn 6 sy’n actio rhan Severus Skype: "Nes i fwynhau cymryd rhan ac roeddwn i’n hapus hefyd ein bod ni wedi cyrraedd y rownd derfynol. Roedd yn gyrhaeddiad gwych i’r ysgol. Dyma’r tro cyntaf i ni gyrraedd y rownd derfynol."

Undeb Rygbi Cymru a Hwb oedd yn cynnal y gystadleuaeth, a chyflwynwyd y gwobrau gan chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru, Rhys Priestland ac Alisha Butchins.

Miss Rebecca Thomas sy’n rhedeg clwb arweinwyr digidol yr ysgol a meddai: “Mae’r disgyblion yn ein clwb arweinwyr digidol wedi gweithio mor galed a dylent fod yn falch iawn o’r hyn y maent wedi’i gyflawni dros yr ysgol wrth ennill y wobr hon.

“Rwy’n teimlo bod y plant lawer yn fwy ymwybodol o sut i gadw’n ddiogel ar-lein a byddwn yn parhau i wella cymwyseddau digidol disgyblion a’u dealltwriaeth o e-ddiogelwch, mewn ffyrdd difyr, doniol a chreadigol – fel y ffilm”.

Mae’r clwb yn un o’r gweithgareddau allgyrsiol niferus a gynigir gan yr ysgol er mwyn rhoi profiad dysgu amrywiol i’r disgyblion.

Mae’r ysgol wedi cefnogi ymgyrch #DdimMewnColliMas Cyngor Torfaen sy’n anelu at annog presenoldeb da trwy hyrwyddo’r profiadau cyffrous y mae disgyblion yn eu cael wrth fynd i’r ysgol yn rheolaidd.

Gallwch wylio Harry Tiktoker and the Digital Wizard World ar blatfform Hwb ac ar sianel YouTube Ysgol Gynradd Griffithstown.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/04/2023 Nôl i’r Brig