Paratowch at eich cwrs TGAU gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 27 Ebrill 2023
Alex - Torfaen ACL learner

Ydych chi’n ystyried cofrestru i wneud cwrs TGAU fis Medi hyn?

Dyna’n union a wnaeth Alex Madden y llynedd – enillodd TGAU Saesneg gradd C ar ôl cael cymorth i ddilyn sawl cymhwyster gan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen.

Erbyn hyn, mae Alex, sy’n 36, ac o Bont-y-pŵl, wedi cofrestru ar gyfer dosbarth Sgiliau Sylfaenol Mathemateg yn y ‘Settlement’ ym Mhont-y-pŵl y tymor hwn ac mae’n gobeithio astudio diwinyddiaeth yn y dyfodol.

Meddai Alex, "Gyflawnes i ddim yn yr ysgol ac rydw i wedi brwydro gyda fy iechyd meddwl a dibyniaeth ers fy arddegau.

"Mae wedi cymryd amser, ond rydw i nawr wedi ennill TGAU Saesneg, ac roedd yn deimlad gwych gweld fy ngwaith caled yn talu ar ei ganfed, o’r diwedd.

"Dydw i ddim wedi bod yn un sy’n hyderus â rhifau, ond rwy’n barod am yr her fathemategol sydd o ‘mlaen i nawr. Am ddwy awr yr wythnos, fy nghynllun yw gweithio fy ffordd trwy fy sgiliau sylfaenol nes i mi fod yn barod i fynd amdani a mynd am y cymhwyster TGAU llawn."

Os nad ydych chi wedi astudio Mathemateg, Saesneg, neu bynciau eraill, ers sawl blwyddyn, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau cychwynnol rhad ac am ddim i’ch paratoi chi ac i wella’ch sgiliau, mewn amgylchedd lle na fydd unrhyw bwysau arnoch chi o gwbl.

Bob blwyddyn, mae cannoedd o ddysgwyr yn cofrestru ar gyfer cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen, a llawer ohonynt yn defnyddio’r gwasanaeth fel sbardun i fynd ymlaen at bethau mwy a phethau gwell.

Meddai Aelod Gweithredol Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, y Cynghorydd Joanne Gauden: "Mae’r penderfyniad i fynd yn ôl at addysg yn gallu bod yn gam mawr, ond mae’n gallu eich helpu i gyflawni eich nodau personol, p’un ai eich bod chi am fynd i'r brifysgol, ceisio am swydd â chyflog gwell, neu helpu eich plant gyda’u gwaith cartref.

“Fel Alex, po fwyaf y byddwch chi’n ymarfer, y mwyaf hyderus y byddwch chi a, gydag amser, gallech chi ddysgu datgloi yr athrylith mathemategol tu mewn i chi!".

Er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cyrsiau y mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen yn eu cynnig, cynhelir cyfres o ddiwrnodau gwybodaeth ar y dyddiadau canlynol ac yn y lleoliadau canlynol:

  • Dydd Mercher, 3 Mai, 2pm - 4pm yn Y Settlement, Trosnant Street, Pontypool
  • Dydd Mercher, 10 Mai, 4pm - 6pm yn Y Pwerdy, Blenheim Road, Cwmbran
  • Dydd Iau, 18 Mai, 6pm - 8pm yn Y Pwerdy, Blenheim Road, Cwmbran
  • Dydd Mercher, 24 Mai 24, 6pm - 8pm yn Y Settlement, Trosnant Street, Pontypool

Er mwyn cofrestru neu ddarganfod mwy am y cyrsiau, ffoniwch 01633 647734, anfonwch neges e-bost at Cerianne.jenkins@torfaen.gov.uk neu ewch i wefan Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/04/2023 Nôl i’r Brig