Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20 Ebrill 2023
Mae canolfan arbenigol wedi agor yr wythnos yma i blant sydd am drosglwyddo o addysg gynradd gyfrwng Saesneg i addysg gyfrwng Cymraeg.
Mae uned Carreg Lam yn Ysgol Panteg yn Nhref Gruffydd ac mae’n cynnig 12 lle i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 6.
Mae Harvey sy’n saith oed yn un o’r disgyblion cyntaf i ddechrau gwersi yng Ngharreg Lam, ar ddydd Llun.
Dywedodd ei fam, Lauren: “Mewn hyd yn oed amser byr, mae hyder Harvey wedi tyfu’n sylweddol gyda’r iaith ond rydym hefyd wedi gweld newid cadarnhaol yn ei hunanhyder. Mae e’n dechrau defnyddio Cymraeg yn gymdeithasol.
"Rydym mor ddiolchgar am y cyfle iddo fynychu Carreg Lam gan nad oedd hyn yn rhywbeth oedd ar gael i ni fel rhieni pan oeddem ni’n iau. Bydd hyn yn helpu ei waith yn wirioneddol ac yn rhoi cyfleoedd iddo yn y dyfodol.”
Mae lleoedd yn cael eu cynnig fesul tymor a bydd disgyblion yn cofrestru ar raglen iaith ddwys am 12 wythnos i wella’u Cymraeg.
Bydan nhw’n cael eu cefnogi wedyn i symud i mewn i ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg prif ffrwd.
Ariennir y rhaglen gan grant tair blynedd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n un o nifer o unedau trochi cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Addysg: “Mae’r cyngor wedi ymrwymo i chwilio am gyfleoedd a goresgyn heriau i hyrwyddo sgiliau Cymraeg a chefnogi dwyieithrwydd mewn amgylchedd cadarnhaol.
“Mae cynnig cyfle i deuluoedd symud i addysg gyfrwng Cymraeg yn helpu i gynyddu’r cyfleoedd hynny i ddysgu’r iaith.”
Am wybodaeth am Garreg Lam, ffoniwch 01495 762581 neu am fwy am addysg gyfrwng Cymraeg yn Nhorfaen, gallwch lawrlwytho copi o daflen Bod yn Ddwyieithog y Cyngor.
Dilynwch y gweithgareddau cyffrous eraill i ddisgyblion Carreg Lam ac Ysgol Panteg, yn ogystal ag ysgolion eraill yn Nhorfaen, trwy chwilio am #NotInMissOut neu #DdimMewnColliMas yn y cyfryngau cymdeithasol