Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 19 Ebrill 2023
Dyw hi byth yn rhy hwyr i godi llyfr newydd a dechrau ar eich pennod newydd.
Yn dilyn Noson Llyfrau’r Byd eleni, bydd Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen yn cynnig nifer cyfyngedig o lyfrau am ddim i’w casglu o’u canolfannau yn ystod oriau agor arferol.
Mae’r llyfrau wedi cael eu rhoi gan The Reading Agency – elusen genedlaethol sydd â chenhadaeth i helpu pobl i oresgyn heriau bywyd trwy rym darllen.
Mae’r nifer gyfyngedig o lyfrau sydd ar gael yn cynnwys Feel Good Food gan Joe Wicks, Queenie gan Candice Carty-Williams a Queenie Malone’s Paradise Hotel gan Ruth Hogan.
Dywedodd Rheolwr Sgiliau Hanfodol Cyngor Torfaen, Carole Murcutt,
“Rydym ni yma yn Nysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen am ysbrydoli trigolion i ddarllen mwy.”
“Bwriad ein darpariaeth Sgiliau Hanfodol yw cynnig cyfleoedd dysgu fforddiadwy i bobl sydd am wella’u sgiliau darllen a chynyddu eu hyder – beth bynnag yw eu man cychwyn.”
“Mae Noson Llyfrau’r Byd yn rhoi cyfle i ni gyrraedd mwy o bobl a rhannu ein cariad at lyfrau.”
Bydd 68,000 o lyfrau’n cael eu rhoi i sefydliadau ledled y wlad i’w rhoi i bobl sydd ddim yn darllen yn rheolaidd ar gyfer mwynhad neu sydd â dim llawer o gyfle i gael llyfrau.
I gael llyfrau am ddim, galwch heibio i un o’n canolfannau yn, naill ai, CAG Croesyceiliog, CAG Pont-y-pŵl neu’r Pwerdy yng Ngwmbrân, tra bod stoc ar gael.
Am gael mwy i’w ddarllen? Peidiwch ag anghofio am lwyfannau ar-lein anhygoel Llyfrgelloedd Torfaen fel Borrowbox a LibbyApp – y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw cerdyn llyfrgell!
Os nad ydych chi’n aelod yn eich llyfrgell leol eisoes, gallwch ymuno trwy wefan Cyngor Torfaen.
Os ydych chi am fynd â’ch darllen ymhellach, gallech ystyried ymuno â’r nifer o gyrsiau sgiliau hanfodol neu TGAU Saesneg sydd ar gael trwy Ddysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen.
Eleni, bydd Noson Llyfrau’r Byd ar nos Sul 23 Ebrill, am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut allwch chi gymryd rhan ewch i Am fwy o wybodaeth am wasanaeth Sgiliau Hanfodol Cyngor Torfaen, ffoniwch 01633 647647 neu danfonwch e-bost at cerianne.jenkins@torfaen.gov.uk