Wedi ei bostio ar Dydd Iau 8 Medi 2022
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: "Gyda thristwch, rydym yn derbyn y newyddion bod Y Frenhines wedi marw yn Balmoral.
"Edmygwyd Y Frenhines ledled y byd am ei hymdeimlad o ddyletswydd a'i hymroddiad i fywyd o wasanaeth cyhoeddus. Roedd hi'n fenyw arbennig fu'n byw bywyd arbennig; a rhoddodd ymrwymiad arbennig i'r wlad hon.
“Bydd y baneri y tu allan i’r Ganolfan Ddinesig yn hedfan ar eu hanner a bydd llyfr teyrnged ar gael yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl o 9am ar fore dydd Gwener.
"Bydd y llyfr ar agor o 9am tan 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn parhau ar agor tan 5pm ar y diwrnod sy’n dilyn yr angladd.
“Ar ran Cyngor Torfaen anfonaf fy nghydymdeimlad dwysaf i’r Brenin a’r Teulu Brenhinol.”