Erlyn am dipio dodrefn yn anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 5 Medi 2022
Furniture new 1

Mae un o drigolion Torfaen wedi cael eu herlyn gan Gyngor Torfaen am dipio’n anghyfreithlon, ar ôl i dyst roi adroddiad bod eitemau o’r cartref, gan gynnwys dodrefn wedi ei dorri, cadair a charped, wedi eu gollwng, yn agos at eu cartref ym Mlaenafon. 

Cysylltodd y tyst â’u Cynghorydd lleol i ddweud eu bod wedi gweld tri o bobl yn cerdded heibio i’w cartref yn cario’r eitemau ac yn dychwelyd heb y pethau hynny. Yn ddiweddarach fe gawson nhw hyd i’r eitemau wedi eu gollwng ar ben New William Street ar 20 Medi 2021.

Rhoddwyd adroddiad am y digwyddiad i’r cyngor ac, ar ôl ymchwiliad gan Swyddogion Iechyd Amgylcheddol, cafodd y gwastraff ei olrhain i Megan Gallagher, 31, o Heritage Gardens, Blaenafon, a gyfaddefodd, ar ôl Rhybudd Swyddogol ei bod yn gyfrifol am y tipio.

Wrth ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ar ddydd Iau 25 Awst, cyfaddefodd y diffinydd, a ofynnodd am gael eu galw gan y llys yn Mr Alex Gallagher, eu bod wedi gosod gwastraff wedi ei reoli ar dir nad oedd â thrwydded amgylcheddol.  

Cawsant eu dirwyo £480, a ostyngwyd i £320 i adlewyrchu’r ple cynnar, a’u gorchymyn gordal dioddefwyr o £34 a chostau llawn y cyngor o £1,037.43. Cyfanswm yr hyn y mae’n rhaid i Mr Gallagher dalu yw £1,391.43 mewn taliadau o £20 y mis.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Does dim esgus am dipio yn ein cymunedau. Gall gwastraff nad yw wedi ei waredu’n iawn fod yn ddolur llygad i drigolion lleol ac ymwelwyr â Thorfaen, a bod yn beryglus o bosibl i’r cyhoedd, yn enwedig plant ac anifeiliaid, yn ogystal â’r amgylchedd naturiol. 

"Hoffem ddiolch i’r sawl a ddywedodd am y digwyddiad yma ac rwy’n annog unrhyw un arall sydd â gwybodaeth am dipio i gysylltu."

 Gellir dweud am dipio trwy ein gwefan, trwy lawrlwytho ap Gwasanaethau FyNhorfaen, neu drwy ffonio 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/09/2022 Nôl i’r Brig