Rheolwr tecawê yn cael ei ddirwyo am droseddau glendid bwyd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 2 Medi 2022

Mae rheolwr busnes tecawê wedi cyfaddef i gyhuddiadau glendid bwyd ar ôl i Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Torfaen ddarganfod eiddo mewn cyflwr budr a seimllyd, gyda bwydydd yn agored i halogiad.

Ymwelwyd â’r Golden Gate Chinese yn 4-6 Chapel Street yng Nghwmbrân gan swyddog ym mis Rhagfyr 2021, ar ôl cwyn ei fod yn fudr, a bod llygod mawr.  

Er na welodd y swyddog dystiolaeth o lygod mawr, roedd arwynebau yn yr eiddo yn fudr, gyda lefelau uchel o saim o gwmpas, y tu ôl ac o dan offer; cafwyd bod sach o nionod wedi gwlychu mewn llifogydd, ac roedd cynwysyddion agored o saws wedi eu storio ar lawr concrid budr.

Cafodd y swyddog hefyd nad oedd staff wedi eu hyfforddi mewn glendid bwyd, nad oeddynt yn cael eu goruchwylio’n briodol, a bod systemau annigonol ar waith i reoli diogelwch bwyd yn rhagweithiol.

Oherwydd y peryglon i gwsmeriaid yn deillio o’r safonau glendid bwyd annerbyniol, cyflwynwyd hysbysiad yn gofyn i’r tecawê gau, er mwyn gallu gwneud y gwelliannau angenrheidiol, gan gynnwys glanhau dwfn. Rhoddwyd sgôr glendid bwyd isaf o sero i’r busnes.

Cyhuddwyd y rheolwr Tiancheng Chen, o bedair trosedd glendid bwyd, ac ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Cwmbrân ar ddydd Iau 25 Awst. Plediodd yn euog i bob cyhuddiad, gan gynnwys methu a gwarchod bwyd rhag y perygl o halogiad.

Dirwywyd Mr Chen £923, a gafodd ei ostwng i £615 oherwydd iddo bledio’n euog yn gynnar. Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu gordal dioddefwr o £62 a chostau llawn y Cyngor o £1,279.78. Y cyfanswm sydd yn rhaid i Mr Chen ei dalu yw £1,956.78.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: “Roedd cyflwr tecawê’r Golden Gate yn llawer is na’r safonau derbyniol.

“Ymatebodd ein swyddogion yn gyflym i’r pryderon a godwyd, a chau’r busnes nes roedd safonau wedi codi, er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. Er bod y rheolwr wedi cydweithredu a’r swyddogion, ni ddylai erioed fod wedi gadael i’r tecawê fynd i’r cyflwr a ganfuwyd.”

Os oes gan unrhyw un bryderon ynglŷn a diogelwch bwyd mewn busnes yn Nhorfaen, fe’u hanogir i adael i’r Cyngor wybod drwy ffonio’r tîm bwyd, iechyd a diogelwch ar 01633 648009 neu drwy ebostio commercial.services@torfaen.gov.uk.

Rhagor am sgoriau glendid bwyd yma

NODYN I’R GOLYGYDD
Rhoddodd y Golden Gate y gorau i fasnachu o’i gyfeiriad Chapel Street ac mae wedi adleoli i eiddo newydd ar Station Road, Pontnewydd, Cwmbrân. Mae’r busnes ar hyn o bryd yn aros am ei archwiliad glendid bwyd.

 

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 02/09/2022 Nôl i’r Brig