Llw i gefnogi'r Lluoedd Arfog

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Hydref 2022
Covenant Group shot

Mae Cynghorau Tref a Chymuned Torfaen heddiw wedi tyngu llw i gefnogi cymuned lluoedd arfog y fwrdeistref.

Llofnododd cynrychiolwyr cynghorau Tref a Chymuned Blaenafon, Croesyceiliog a Llanyrafon, Cwmbrân a Phonthir, ynghyd ag aelodau’r Gymuned Lluoedd Arfog, Gyfamod Lluoedd Arfog y Cyngor mewn cyfarfod o’r cyngor llawn heddiw. 

Mae Cynghorau Tref a Chymuned Henllys a Phont-y-pŵl i lofnodi eu sgroliau cyfamod yn ddiweddarach.

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl sy’n sicrhau bod y sawl sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.

Meddai Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt, a gyflwynodd yr eitem yn y cyngor llawn: “Yn 2013, arwyddodd Cyngor Torfaen y cyfamod lluoedd arfog, gan gydnabod yr aberth a wnaed gan ein milwyr ac er mwyn i ni ddarparu’r gefnogaeth briodol iddyn nhw.

“Mae llofnodi’r cyfamod yn ail-gadarnhau’r addewid hwnnw ac mae wedi golygu ein bod wedi gallu codi’r gefnogaeth honno  i lefel uwch a sicrhau nad ydynt yn cael eu hanfanteisio.

“Mae’n anrhydedd bod yn dyst i’r chwe cyngor tref a chymuned yn y fwrdeistref yn llofnodi’r cyfamod am y tro cyntaf yma heddiw. “

Meddai’r Uwchgapten Oliver Stuart, Swyddog Gweithredol 104ydd Catrawd y Magnelwyr Brenhinol yn ystod y seremoni: "Mae’n ymrwymiad symbolaidd a gwirioneddol sy’n dangos cysylltiad dwfn rhwng cymunedau lleol a’r Lluoedd Arfog."

Bydd copi wedi’i fframio o sgrôl y cyfamod yn cael ei arddangos ym mhob adeilad Tref a Chymuned.

Drwy addo eu cefnogaeth, mae sefydliadau yn gallu gwneud cais i Gynllun Grant y Cyfamod, sy’n darparu cymorth ariannol i brosiectau lleol sy’n cryfhau cysylltiadau a dealltwriaeth rhwng cymuned y lluoedd arfog a’r gymuned yn ehangach.

Gall prosiectau cymwys wneud cais am grantiau rhwng £100 a £250,000,

I gael rhagor o wybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog ewch i https://www.armedforcescovenant.gov.uk/

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2022 Nôl i’r Brig