Ymgyrch presenoldeb mewn ysgolion

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 23 Tachwedd 2022
#NotInMissOut tile4

Mae aelodau craffu wedi ystyried adroddiad ar ddull partneriaeth Cyngor Torfaen i wella presenoldeb mewn ysgolion. 

Amlinellodd yr adroddiad, a drafodwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg heddiw, er bod llywodraeth Cymru wedi llacio’r gofyniad am dargedau presenoldeb ffurfiol, mae’r Cyngor wedi gofyn i ysgolion osod targedau anffurfiol i helpu i lywio prosesau gwerthuso a gwella.

Amlinellodd hefyd sut roedd tîm Lles Addysg yr awdurdod lleol yn gweithio'n agos gydag ysgolion a phartneriaid eraill i hyrwyddo gwell presenoldeb.

Ers y pandemig, mae presenoldeb yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd wedi gostwng - gyda phresenoldeb ar gyfartaledd mewn ysgolion cynradd yn gostwng i 92 y cant yn ystod y tair blynedd diwethaf ac 88 y cant mewn ysgolion uwchradd.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn diweddaru eu polisi a'u harweiniad ar bresenoldeb, a bydd drafft o bolisi presenoldeb diwygiedig Torfaen yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, aelod gweithredol dros addysg: "Rydym yn deall bod y rhesymau dros absenoldebau yn yr ysgolion yn fwy cymhleth ers y pandemig, gyda chynnydd yn nifer y disgyblion sy’n dweud na allant ymdopi â mynd i'r ysgol.

"Rydyn ni'n gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod cymorth priodol ar waith i ddisgyblion sy'n ei chael hi'n anodd mynychu'r ysgol.

"Ond nid problem i ysgolion yn unig yw absenoldeb parhaus - mae'n broblem i'r awdurdod cyfan a chymunedau, felly mae'n iawn ein bod ni'n cymryd agwedd amlasiantaethol i gefnogi'r plentyn, ei deulu a'i ysgol."

Y mis hwn, lansiodd Cyngor Torfaen ac ysgolion lleol yr ymgyrch #DdimMewnColliMas, gyda'r nod o hyrwyddo a dathlu manteision mynd i'r ysgol bob dydd, sef addysg wych,  gweithgareddau allgyrsiol a threulio amser gyda ffrindiau.

Mae absenoldeb parhaus yn cyfeirio at ddisgyblion sydd â chyfradd presenoldeb o dan 80 y cant, p'un a yw hynny oherwydd absenoldebau heb ganiatâd neu â chaniatâd.

Lle cydnabyddir bod disgybl yn absennol yn barhaus, bydd yr ysgol a’r tîm lles addysg yn gweithio gyda'r teulu i gefnogi lles y plentyn ac ystyried ffyrdd eraill o gefnogi eu haddysg.

Cofnodir absenoldebau heb ganiatâd pan fydd disgybl yn absennol heb eglurhad, neu lle nad yw ysgolion yn ystyried y rheswm a roddir yn achos derbyniol i fethu ysgol, er enghraifft, gwyliau rheolaidd yn ystod y tymor.

Mae ysgolion yn cofnodi absenoldebau â chaniatâd yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, sef, os adroddir bod plentyn yn sâl, neu fod angen iddo fynychu apwyntiad meddygol.

Os na all plentyn fynychu'r ysgol, dylai rhieni neu ofalwyr adrodd ei fod yn absennol cyn gynted â phosibl. Os yw plentyn yn ei chael hi'n anodd mynychu'r ysgol yn rheolaidd, dylai rhieni a gofalwyr siarad â'u hysgol neu gysylltu â thîm Lles Addysg y cyngor ar 01495 766965.

I gael gwybodaeth am bresenoldeb mewn ysgolion yn Nhorfaen, ewch i'r wefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/06/2023 Nôl i’r Brig