Mannau i Gysylltu

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022
Knit and Natter crop

Mae pobl yn ymwybodol nawr fwy nag erioed pa mor bwysig yw i bawb deimlo cysylltiad ag eraill a chael teimlad o berthyn yn eu cymuned. 

 I helpu gyda hyn, mae gwasanaeth llyfrgell Cyngor Torfaen yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cyfleoedd i gysylltu.

 Mae’r fenter Mannau i Gysylltu yn ffurfio rhan o brosiect Byw yn Dda yng Nghymru, sy’n amlygu’r rôl bwysig y mae llyfrgelloedd Cymru yn ei chwarae wrth graidd eu cymunedau lleol ac yn hybu’r gwaith maent yn ei wneud i gefnogi iechyd a lles pobl.

 Fel rhan o’r ymgyrch, bydd Llyfrgelloedd Torfaen yn cynnal nifer i ddigwyddiadau galw heibio rhwng nawr a’r Nadolig gan gynnwys:

  • Sesiynau Gweu a Sgwrsio: Dydd Iau 2pm-4pm, Llyfrgell Cwmbrân
  • Paned a sgwrs: Dydd Mawrth 9.30am-12pm Llyfrgell Cwmbrân, Dydd Iau 11.15am-12.15pm Blaenafon, Dydd Gwener 2pm-4pm Pont-y-pŵl
  • Clybiau ar ôl ysgol (cychwyn dydd Llun 21 Tachwedd): Dydd Llun 3pm-5pm Llyfrgell Cwmbrân, Dydd Mawrth 3pm-5pm Llyfrgell Pont-y-pŵl, Dydd Mercher 3pm-5pm Llyfrgell Blaenafon

Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim ac nid oes angen bwcio. Gallwch weld pa sesiynau sydd ar gael drwy alw heibio Llyfrgell Blaenafon, Cwmbrân neu Bont-y-pŵl neu ddilyn Llyfrgelloedd Torfaen ar Facebook.

Mae’r fenter Mannau i Gysylltu yn ffurfio rhan o brosiect Byw yn Dda yng Nghymru, sy’n amlygu’r rôl bwysig y mae llyfrgelloedd Cymru yn ei chwarae wrth graidd eu cymunedau lleol ac yn hybu’r gwaith maent yn ei wneud i gefnogi iechyd a lles pobl.

Mae Llyfrgelloedd ledled Torfaen hefyd yn cynnig mannau cynnes i bobl sy’n cael anhawster gyda chostau cadw eu cartrefi yn gynnes oherwydd y cynnydd arwyddocaol mewn costau ynni.

Mae’r mannau clyd hyn ar agor i unrhyw un cyn hired ag y maent eu hangen tra bo’r llyfrgelloedd ar agor. Gallwch ddarllen mwy am fannau cynnes yn Nhorfaen yma.

Meddai Stephanie Morgan,uwch lyfrgellydd: "Mae ein llyfrgelloedd yn adnoddau cymunedol y mae pobl yn ymddiried ynddyn nhw sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i gynnig lle i bobl gysylltu, dysgu ac ymlacio.

"Maent yn cynnig staff gyda sgiliau a gwybodaeth, a all ddarparu help i bobl a’u cynorthwyo i gael gwybodaeth sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles a gallent eu cyfeirio i wasanaethau cymorth eraill.

“Yn Nhorfaen rydym yn falch o ymuno gyda’r ymgyrch mannau i Gysylltu ac edrychwn ymlaen at gyflenwi digwyddiadau a gweithgareddau pellach Byw yn Dda yng Nghymru yn eich llyfrgelloedd drwy gydol y flwyddyn i helpu i feithrin cymunedau lleol iachach.”

Meddai Kate Leonard, arweinydd iechyd a lles ar gyfer Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr (Cymru) a Rheolwr Datblygu Llyfrgelloedd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura: “Mae’r ddwy neu dair blynedd ddiwethaf wedi dangos pa mor hollbwysig yw cysylltiad cymdeithasol i les pawb; rydym i gyd yn cofio faint roeddem yn colli gweld a siarad gyda phobl eraill.

"Mae Llyfrgelloedd Cymru yn gweithio i ddarparu’r cysylltiad hwnnw yn eu cymunedau lleol, drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau, cyfeirio i wasanaethau eraill neu, yn syml, cynnig lle i bobl ymlacio a sgwrsio gyda phobl eraill.

"Bydd ein hymgyrch mannau i Gysylltu yn pwysleisio’r gwaith mae ein llyfrgelloedd yn ei wneud i gefnogi’r cysylltiadau hyn ac annog pobl i edrych yn fwy gofalus ar yr hyn sydd gan eu llyfrgell leol i’w gynnig.“

Rhagor o wybodaeth am Lyfrgelloedd Torfaen, gan gynnwys oriau agor a’r gwasanaeth Cais a Chasglu, ar wefan Cyngor Torfaen.

Hoffem gael gwybod beth ydych chi yn ei feddwl am wasanaethau Cyngor Torfaen. Lleisiwch eich barn yn ein arolwg trigolion cyn diwedd mis Tachwedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/11/2022 Nôl i’r Brig