Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Tachwedd 2022
Mae Sul y Cofio yn ddyddiad pwysig yng nghalendr blynyddol y genedl, ac eleni cynhelir y digwyddiad ar 13 Tachwedd, 2022.
Mae'n gyfle i gofio'r Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, o Brydain a'r Gymanwlad, am yr aberthau a wnaed i amddiffyn ein rhyddid Ac amddiffyn ein ffordd o fyw.
Mae hefyd yn gyfle i fyfyrio ar y rôl hanfodol a chwaraeir gan y gwasanaethau brys a'r rhai sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i wrthdaro neu derfysgaeth.
Wrth gofio, bydd cyfres o orymdeithiau yn digwydd ar draws y fwrdeistref sirol, yn cynnwys:
BLAENAFON
10.40am Gorymdaith o’r Maes Parcio Uchaf, a gorymdeithio drwy Broad Street ac Ivor Street i’r Senotaff.
11.00am Gosod torch a chynnal gwasanaeth ger y Senotaff.
CWMBRÂN
10.30am Gorymdeithwyr i ymgynnull yn y maes parcio y tu ôl i siop farbwr Natale & Son oddi ar Wesley Street.
10.35am Bydd yr orymdaith yn ffurfio ar Wesley Road gan symud i lawr Wesley Road i Cocker Avenue, gan aros wrth y goleuadau cyn Henllys Way. Bydd y gorymdeithwyr yn gwasgaru er mwyn mynd i mewn i Barc Cwmbrân.
10:50am Gwasanaeth Goffa ym Mharc Cwmbrân.
11.15am Bydd yr Orymdaith yn ailffurfio ar Cocker Avenue, a dychwelyd i Wesley Road
Y DAFARN NEWYDD
10.00am Gorymdaith i ymgynnull yn Neuadd Eglwys St Mary’s, Y Briffordd, Y Dafarn Newydd.
10.10am Gorymdaith yn teithio i Eglwys St Mary’s.
10.30am Gwasanaeth yn Eglwys St Mary’s.
11.20am Gorymdaith yn dychwelyd i Neuadd Eglwys St Mary’s.
PONTNEWYDD
10.15am Gorymdaith yn ymgynnull.
10.30am Gorymdaith o Glwb Lleng Brydeinig Frenhinol Pontnewydd, Station Road, Pontnewydd i osod torch a chynnal gwasanaeth ger y Senotaff. Bydd dwy funud o dawelwch am 11.00am.
PONT-Y-PŴL
11.45am Gorymdaith yn ymgynnull ar Commercial Street, Canol Tref Pont-y-pŵl.
12.00noon Gorymdaith yn symud o’r man ymgynnull i’r Gatiau Coffa, Pont-y-pŵl i gynnal gwasanaeth a seremoni gosod torch; dychwelyd ar hyd Cylchfan Clarence.