Dathlwch y Jiwbilî yn ddiogel

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Mai 2022

Dim ond pump diwrnod i fynd tan benwythnos hir Gŵyl y Banc, felly os ydych chi’n bwriadu dathlu yn Nhorfaen , a ddim yn siŵr ble i ddechrau, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a’ch awdurdod lleol yma i helpu. Mae gennym ni ambell air o gyngor hawdd ei ddilyn fel y bydd pawb yn gallu mwynhau bwyd blasus ond diogel yn eich digwyddiad.

Er mwyn sicrhau dathliadau diogel a di-risg, cofiwch fod tywydd braf a choginio yn yr awyr agored yn creu’r amgylchiadau perffaith i facteria dyfu, ac mae risgiau’n parhau wrth baratoi a gweini bwyd oer yn yr amgylchiadau hyn.

Meddai Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru:

“Mae penwythnos hir Gŵyl y Banc yn rhoi cyfle i gymunedau ar draws Cymru fwynhau dod ynghyd â ffrindiau a theulu. Mae dathlu’n ddiogel yn golygu meddwl am ddiogelwch bwyd ymlaen llaw, fel y gallwch chi ganolbwyntio ar fwynhau’r parti.

“Rydym yn gwybod bod yna lawer o waith trefnu, ond peidiwch ag anghofio bod hylendid bwyd hefyd yn bwysig, felly mae’n bwysig cynllunio’n ofalus sut y byddwch yn paratoi, gwneud a storio bwyd. Does neb eisiau i fwyd anniogel effeithio ar hwyl a sbri’r penwythnos.”

Cynllunio digwyddiad? Dyma rai awgrymiadau syml i’w dilyn os ydych chi’n paratoi bwyd ar gyfer llawer o bobl: 

  • golchwch eich dwylo â sebon a dŵr yn rheolaidd cyn paratoi a bwyta bwyd
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi ffrwythau a llysiau ffres bob amser
  • storiwch fwyd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta ar wahân
  • peidiwch â defnyddio bwyd y tu hwnt i’w ddyddiad defnyddio erbyn (use-by date)
  • darllenwch unrhyw gyfarwyddiadau coginio bob amser a gwnewch yn siŵr bod bwyd wedi’i goginio’n iawn cyn ei weini – mae angen iddo fod yn stemio’n boeth
  • sicrhewch fod mannau paratoi bwyd yn cael eu glanhau a’u diheintio cyn ac ar ôl eu defnyddio a bod offer cegin yn cael ei olchi mewn dŵr poeth â sebon
  • cynlluniwch ymlaen llaw i gadw eich bwyd yn oer nes eich bod chi’n barod i fwyta. Hefyd, mae angen cadw unrhyw fwydydd y byddech chi fel arfer yn eu cadw yn yr oergell yn oer yn ystod eich picnic. Mae hyn yn cynnwys; unrhyw fwyd sydd â dyddiad ‘defnyddio erbyn’, prydau wedi’u coginio, saladau a chynhyrchion llaeth. Rhowch y bwydydd hyn mewn blwch neu fag oer gyda phecynnau iâ neu becynnau gel wedi’u rhewi. Gwasgarwch y pecynnau oeri hyn trwy’r blwch neu’r bag, nid dim ond ar y gwaelod. Gallwch hefyd ddefnyddio diodydd wedi’u rhewi i gadw popeth yn oer. Storiwch fwyd oer o dan bum gradd i atal bacteria rhag tyfu. 

Nid oes angen tystysgrif hyfforddiant hylendid bwyd arnoch i baratoi a gwerthu bwyd ar gyfer digwyddiadau elusennol. Fodd bynnag, mae angen i chi sicrhau eich bod yn trin bwyd yn ddiogel.  Bydd dilyn canllawiau’r ASB ar yr hanfodion diogelwch bwyd (glanhau, oeri, coginio ac osgoi croeshalogi) yn eich helpu i baratoi pryd o fwyd diogel ar gyfer eich cymuned.

Os ydych chi ond yn cynnal digwyddiad unwaith ar gyfer ffrindiau a chymdogion, nid oes angen i chi gofrestru. Fodd bynnag, os bydd unrhyw fusnesau bwyd yn bresennol mae’n rhaid iddynt gofrestru gyda’r awdurdod lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am gynnal parti stryd ar wefan yr ASB.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 27/05/2022 Nôl i’r Brig