Pod cyngor cyflogaeth a sgiliau newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 23 Mawrth 2022
CELT pics

Bydd hwb galw heibio newydd ar gael o’r wythnos nesaf i bobl sydd angen cyngor ar ddychwelyd i’r gwaith, dod o hyd i swydd well neu i wella’u sgiliau.

Bydd y Pod Cyngor Cyflogaeth a Sgiliau, sydd wedi’i leoli yn Llyfrgell Cwmbrân, am ddim i unrhyw un sy’n byw yn Nhorfaen sydd am wella eu rhagolygon cyflogaeth, sgiliau neu gymwysterau.

Bydd cynghorwyr hefyd yn gallu helpu unrhyw un sy'n cael trafferthion ariannol neu sydd angen cymorth gyda'u hiechyd a'u lles, yn ogystal â chyngor cyflogaeth.

Dywedodd Angela Price, o dîm Cyflogadwyedd a Sgiliau Cyngor Torfaen, a fydd yn rhedeg y pod: “Y nod yw ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i drigolion, sy’n cael trafferth dod o hyd i swydd neu wella eu sefyllfa ariannol, gael cyngor mor gyflym ag y bo modd.

“Rydym yn deall y gall chwilio am waith, neu newid gyrfa, fod yn heriol, yn enwedig os ydych wedi bod yn ddi-waith am amser hir, angen diweddaru eich sgiliau, neu os ydych yn wynebu caledi ariannol, ond gallwch sicrhau bydd ein cynghorwyr yno i roi cymorth a chyngor i drigolion yn seiliedig ar eu sefyllfaoedd unigol. Gobeithiwn y bydd y pod yn dod yn ased cymunedol hanfodol yng nghanol Cwmbrân.”

Bydd y pod ar gael ar lawr gwaelod Llyfrgell Cwmbrân o ddydd Llun 28 Mawrth. Bydd ar agor bob dydd, rhwng 9.30am a 4.30pm, ac eithrio ar ddydd Mercher pan fydd y llyfrgell ar gau.

Gall unrhyw un sydd angen cyngor alw i mewn. Nid oes angen apwyntiad.

Mae’r Pod Cyngor Cyflogaeth a Sgiliau wedi’i sefydlu gan dîm Cyflogadwyedd a Sgiliau Cyngor Torfaen ac mae’n beilot a ariennir gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU, fel rhan o brosiect rhanbarthol o’r enw CELT – Connect, Engage, Listen, Transform.

Mae’r peilot hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer Bws Cyngor Cyflogaeth a Sgiliau a fydd yn cynnig cymorth i bobl ym Mhentre Uchaf, Cwmbrân, a Forgeside o’r mis nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospect

Diwygiwyd Diwethaf: 25/03/2022 Nôl i’r Brig