Dirwy am dipio anghyfreithlon yn yr afon

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 30 Mehefin 2022

Mae menyw wedi cael gorchymyn i dalu £280 ar ôl i wastraff cartref oedd yn eiddo iddi gael ei ganfod yn Afon Lwyd ym mis Ebrill 2020.

Yn Llys Ynadon Casnewydd yr wythnos diwethaf, plediodd Miss Charlene Evans, o River Row, Pontnewynydd, yn euog i'r drosedd o beidio â sicrhau ei bod wedi gwaredu ar y gwastraff mewn ffordd briodol.

Cafodd pum bag du o wastraff cartref a oedd wedi'i dipio'n anghyfreithlon mewn rhan o Afon Lwyd ym Mhontnewynydd eu hadfer gan y Cyngor ar ôl i aelod o'r cyhoedd roi gwybod am y digwyddiad.

Yn dilyn ymchwiliadau gan swyddogion o Dîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Torfaen canfuwyd mai Miss Charlene Evans oedd yn berchen ar y gwastraff.

Cyflwynwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i Miss Evans i ddechrau, a methodd â'i thalu. Ceisiodd swyddogion ymgysylltu â hi ar sawl achlysur, ond gwrthododd gydweithredu â'u hymchwiliadau dro ar ôl tro. Pan na ddaeth Miss Evans i'r gwrandawiad llys cychwynnol am y drosedd, cyhoeddwyd gwarant i'w harestio. Wedi hynny, ymddangosodd gerbron y llys, lle plediodd yn euog a chafodd ddirwy o £150 a gorchmynnwyd iddi dalu £200 tuag at gostau'r Cyngor, a gordal dioddefwr o £30.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol ddifrifol, ac mae'n costio llawer o arian i drethdalwyr wrth inni fynd ati i'w lanhau. Mae'n edrych yn hyll a gall fod yn niweidiol i'n cymunedau, ein bywyd gwyllt a'r amgylchedd.

"Mae gan bawb sydd â chartref ddyletswydd gofal i gael gwared ar eu gwastraff mewn ffordd briodol, felly wrth wneud trefniadau i rywun gael gwared ar wastraff, anogir trigolion i sicrhau bod ganddynt drwydded gwastraff ddilys i gludo gwastraff. Fe'ch cynghorir hefyd i dynnu llun o'u manylion, neu wneud nodyn ohonynt.

"Hoffwn ganmol gwaith rhagorol Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor wrth ddwyn yr achos hwn gerbron y Llys a sicrhau canlyniad llwyddiannus."

I roi gwybod am dipio anghyfreithlon yn y fwrdeistref ewch i https://www.torfaen.gov.uk/en/Forms/Report/Flytipping.aspx 

Diwygiwyd Diwethaf: 14/06/2023 Nôl i’r Brig