Siopa Cynaliadwy

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22 Mehefin 2022
Able Radio Pic

Mae elusen sy’n cefnogi pobl ag awtistiaeth ac anableddau dysgu wedi agor siop newydd yn gwerthu ffrwythau a llysiau ffres. 

Mae Able, yng Nghwmbrân, yn cynnig ystod o wasanaethau dydd, gan gynnwys prosiect garddio. 

Mae’r tîm y tu ôl i hyn nawr wedi agor Siop Gynaliadwy newydd i werthu eu cynnyrch i’r gymuned leol, diolch i grant Cynllun Bwyd Cymunedol o £10,000. 

Meddai’r cyfarwyddwr Shaun O'Dwyer: "Diolch i’r grant, rydym wedi gallu sefydlu ein siop ffrwythau a llysiau cynaliadwy a chynyddu ein gallu i dyfu ar y safle yng Nghwmbrân Uchaf.

"Bydd hyn nid yn unig yn caniatáu i’r gymuned gael cynnyrch ffres fforddiadwy, mae hefyd wedi ein galluogi i greu micro-fenter i’r bobl rydym yn eu cefnogi. Ein dyhead yw creu cyfleoedd gwirioneddol fel hyn i’n cleientiaid yn Able." 

Yn gynharach eleni, dyfarnodd Cyngor Torfaen chwech o grantiau Cynllun Bwyd Cymunedol i sefydliadau trydydd sector fel rhan o fenter Food4Growth Cyngor Torfaen, a roddodd hefyd grantiau i dri busnes gwledig i’w helpu nhw i arallgyfeirio eu cynnyrch. 

Mae 10 grant arall o hyd at £15,000 nawr ar gael i grwpiau cymunedol, elusennau neu wasanaethau sector cyhoeddus i ariannu syniadau prosiect newydd gyda’r nod o drechu tlodi bwyd yn Nhorfaen.

Dywedodd Tracey Marsh, Swyddog Datblygu Prosiectau Bwyd Cyngor Torfaen: "mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed am brosiectau sy’n cysylltu gyda gwasanaethau lles lleol, annog tyfu bwyd yn lleol neu ddod ag elfen ffres i brosiectau neu wasanaethau presennol. 

"Er enghraifft, mae’r siop gynaliadwy nid yn unig yn cynorthwyo gyd datblygu sgiliau pobl, mae hefyd yn cysylltu pobl o bob oedran ac yn rhoi cyfle i drigolion lleol brynu bwyd maethlon a fforddiadwy."

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner dydd ar ddydd Gwener 8 Gorffennaf a rhaid cwblhau pob prosiect erbyn diwedd mis Mai y flwyddyn nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth a phecyn gwneud cais, cysylltwch â:

Tracey Marsh, Swyddog Datblygu Prosiectau Bwyd ar 07903 337507 neu ebost tracey.marsh@torfaen.gov.uk

Nikki Williams, Rheolwr Datblygu Gwledig ar 01495 742147 neu ebost nikki.williams@torfen.gov.uk

Mae prosiect Food4Growth yn cynnal pythefnos o ddigwyddiadau ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl o’r wythnos nesaf ymlaen gyda’r bwriad o gefnogi busnesau bwyd ledled Torfaen, yn ogystal â grwpiau cymunedol sy’n cefnogi pobl mewn tlodi bwyd. Dilynwch @pontypoolindoormarket neu @torfaencouncil trwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Siop Gynaliadwy wedi ei lleoli yng Nghanolfan Nant Bran, Cwmbrân Uchaf, ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 12pm a rhwng 1pm a 2.30pm. Derbynnir arian parod, cardiau a thocynnau Cychwyn Iach.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/06/2022 Nôl i’r Brig