Digwyddiadau am ddim i ddathlu'r gamlas dros yr haf

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 18 Gorffennaf 2022

Mae ioga gyda’r hwyr a theithiau cerdded bywyd gwyllt ymhlith y gweithgareddau sy’n digwydd wrth lannau Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu dros yr haf.

Diolch i arian o Gronfa Adfer Covid y Cyngor, mae’r Cyngor wedi gallu ymuno a’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd i drefnu digwyddiadau ar y cyd i helpu i ddathlu’r gamlas

Yn gynharach yr wythnos yma, aeth Andy Karran o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent â thrigolion ar daith gerdded hamddenol ar hyd glannau’r gamlas.  Dysgodd trigolion am bwysigrwydd y gamlas wrth iddyn nhw fwynhau’r synau a’r swynion.

Dywedodd Andy: “Cerddon ni ar hyd darn hyfryd o'r gamlas gyda chriw gwych o bobl.

“Roedd dwy ochr y gamlas yn llawn amrywiaeth trawiadol o flodau gwyllt, ac roedd y rhain, yn eu tro, yn denu gloÿnnod byw a phryfed eraill.”

Dywedodd Kate Holly, sy’n trefnu’r sesiynau ioga: “Mae hi wedi bod yn fraint rhannu pleserau ioga wrth y gamlas yn yr haul gyda’r hwyr…mae mwy o bobl nag erioed yn chwilio am fuddion yr awyr agored, ym myd natur, ac mae cyfuno hynny â ioga hefyd yn fendith. 

“Mae gan y gamlas cymaint i’w gynnig ac mae mor hawdd mynd iddi, gan roi lloches i ni yng nghanol ein bywydau pob dydd. Pob clod i Gyngor Torfaen a’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd am gynnig cymaint o weithgareddau i alluogi pobl i’w mwynhau’n fwy byth!”

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod gweithredol dros adfywio a sgiliau: “Mae’n hyfryd clywed bod y rhan o’r gamlas sydd yn Nhorfaen yn cael ei ddathlu gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

“Mae bod yn yr awyr agored yn fuddiol i bawb, ac mae’n wych ar gyfer iechyd a lles.
“Mae’r digwyddiadau i gyd am ddim, felly rwy’n gobeithio y bydd trigolion yn achub ar y cyfleoedd gwych yma.”

Digwyddiadau ar y gweill

Digwyddiad: Teithiau Cerdded Bywyd Gwyllt
Disgrifiad: Ymunwch â ni am deithiau cerdded ar hyd y gamlas, dan arweiniad yr arbenigwr bywyd gwyllt, Andy Karran. Bydd Andy’n siarad am olygfeydd a synau naturiol y gamlas, gan bwysleisio pwysigrwydd y gamlas i fywyd gwyllt.
Dyddiad: Dydd Mawrth 09 Awst
Amser: 10am

Digwyddiad: Ioga gyda’r hwyr
Disgrifiad: Ymlaciwch wrth y gamlas yn un o’n sesiynau ioga awyr agored ym Masn Pont-y-moel dan arweiniad Kate Holly
Dyddiad: Dydd Iau 1

I wybod mwy am y digwyddiadau i gyd, ac i gadw lle, ewch at adran digwyddiadau’r gamlas ar wefan Cysylltu Torfaen  

Am gyfer digwyddiadau eraill yn y fwrdeistref, ewch draw at wefan Haf o Hwyl.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/10/2022 Nôl i’r Brig