Dirwy i Dipiwr

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Ionawr 2022

Mae menyw wedi ei gorchymyn i dalu bron i £2,000 am ollwng 12 sach du o sbwriel, celfi wedi eu torri a blychau cardbord.

Plediodd Grace Gondongwe, o George Street, Pont-y-pŵl, yn euog gerbron Llys Ynadon Casnewydd yr wythnos ddiwethaf i ddau gyhuddiad yn ymwneud â gollwng sbwriel yn anghyfreithlon, ar ôl i warant gael ei rhoi i’w harestio am beidio â mynychu’r llys.  Cafodd ddirwy o £1,400 a gorchymyn i dalu costau o £450 i’r Cyngor a gordal dioddefwyr o £140.

Cafwyd hyd i chwe sach o wastraff cartref wedi eu tipio yn ardal George Street ym Mhont-y-pŵl ar ddydd Iau, 8 Ebrill 2020 a chwe sach arall, celfi wedi eu torri a 4 blwch cardbord wedi eu gollwng ar lwybr yn agos at Tranch Road ar ddydd Iau 8 Gorffennaf 2020.

Ar ôl ymchwiliad gan swyddogion o dîm Iechyd Amgylcheddol Cyngor Torfaen daeth i’r amlwg fod y gwastraff yn eiddo i Miss Gondongwe.

Plediodd yn euog i dipio anghyfreithlon yn ardal George Street, ac i fethu a sicrhau bod y person a oedd yn cymryd ac yn gwaredu ei gwastraff yn gludwr gwastraff cofrestredig.  Aeth y gwastraff i’r goedwig wrth ymyl Tranch Road yn y diwedd. 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol ddifrifol, ac mae’n costio cryn dipyn o arian i lanhau wedyn. Mae’n edrych yn hyll ac yn gallu bod yn niweidiol i’n cymunedau a’r amgylchedd.

“Rydym yn gobeithio bydd yr achos yma’n atal y rheiny sy’n meddwl am dipio’n anghyfreithlon. Mae dwy fil o bunnoedd yn swm mawr, ond gall dirwyon fod yn uwch.

“Mae gan bob un gyfrifoldeb am waredu eu gwastraff yn iawn, felly pan fyddwch yn trefnu i rywun waredu eich gwastraff, rydym yn annog trigolion i wirio a oes ganddyn nhw drwydded cludwr gwastraff dilys. Ein cyngor hefyd yw cymryd llun o’u manylion, neu wneud nodyn ohonyn nhw.

“Hoffwn gymeradwyo gwaith ardderchog Swyddogion Iechyd Amgylcheddol y Cyngor wrth ddod â’r achos yma gerbron y Llys a chael canlyniad llwyddiannus.”

I ddweud am dipio anghyfreithlon, ewch i www.torfaen.gov.uk/cy/Forms/Report/Flytipping/Flytipping.aspx

Diwygiwyd Diwethaf: 15/06/2023 Nôl i’r Brig