Amlosgfa Gwent - nifer y galarwyr a ganiateir

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 4 Ionawr 2022

O 6am ar 26 Rhagfyr 2021, symudodd Cymru i Lefel Rhybudd 2.

Fel rhan o'r rheolau newydd yn Lefel Rhybudd 2, mae'n ofynnol bod pellter cymdeithasol o 2 fetr yn angenrheidiol ym mhob adeilad sy'n agored i'r cyhoedd, a bydd y nifer a all fod yn bresennol yn cael ei bennu yn ôl gallu'r lleoliad i reoli pellter cymdeithasol a mesurau rhesymol eraill.

Felly, bydd nifer y galarwyr y caniateir iddynt fynychu amlosgiadau yng Nghapel Amlosgfa Gwent, Croesyceiliog eto wedi'i gyfyngu i ugain (20) a daw hyn i rym o 26 Rhagfyr 2021.

Gwneir pob penderfyniad ar nifer y galarwyr ar ôl adolygu asesiadau risg ac maent yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys y gallu i gynnal a gorfodi'r gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr yn ddiogel a'r effaith ar iechyd, diogelwch a lles parhaus pawb sy'n mynychu, yn rheoli ac yn gweinyddu'r angladd.

Mae'r niferoedd cyfredol yn cefnogi diogelu’r cyhoedd yn barhaus, yr ymdrech barhaus i arafu lledaeniad y firws a sicrhau y gall y gwasanaethau profedigaeth barhau i reoli angladd mewn ffordd ddiogel ac urddasol.

Trwy gydol pandemig Covid-19 nid chwarae bach oed gwneud penderfyniadau i gyfyngu ar nifer y galarwyr a ganiateir. Mae parch at yr ymadawedig a thosturi tuag at y rhai mewn profedigaeth yn rhan bwysig o'r broses benderfynu, ond rhaid amddiffyn iechyd a lles y cyhoedd, staff yr angladd a’r Amlosgfa i’r eithaf yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn sy’n parhau.

Nid yw hyn yn effeithio ar amserau agor Tir yr Amlosgfa a bydd yn glynu at eu horiau agor arferol.

Bydd partneriaid Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent yn parhau i adolygu’r mater tra bod pandemig Covid-19 yn parhau i effeithio ar ardal Gwent.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/01/2022 Nôl i’r Brig