Ysgolion yn mynd i'r afael ag absenoldebau heb ganiatâd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022
BHVC-NotInMissOut2

Mae nifer yr absenoldebau heb ganiatâd mewn ysgolion cynradd yn Nhorfaen wedi gostwng yn ystod y mis diwethaf.

Ym mis Tachwedd, roedd cyfanswm o 1.5 y cant o absenoldebau mewn ysgolion cynradd yn rhai heb ganiatâd, o gymharu â 1.7 y cant ym mis Hydref.

Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon welodd y gostyngiad unigol mwyaf yn nifer yr absenoldebau heb ganiatâd, o 3 y cant ym mis Hydref i 1.6 y cant ym mis Tachwedd.

Dywedodd y pennaeth Anna Britten: "Mae'r plant yn mwynhau dod i'r ysgol oherwydd y pethau cyffrous maen nhw'n eu gwneud yn yr ystafell ddosbarth.

"Mae'r gostyngiad yn nifer yr absenoldebau heb ganiatâd hefyd yn ganlyniad i rieni’n rhoi rhesymau dros absenoldeb yn fwy cyson, ac rydym wedi defnyddio ein cylchlythyr i annog rhieni i beidio â threfnu apwyntiadau yn ystod amser ysgol."

Dywedodd Oscar, disgybl ym Mlwyddyn Pump, mai un o’r rhesymau iddo fwynhau mynd i’r ysgol oedd y cyfle i dreulio amser gyda ffrindiau: “Rydyn ni’n gweld ein ffrindiau yn yr ysgol ac rydyn ni’n cael chwarae gemau pêl -droed a rygbi.”

Dywedodd Iestyn, cyd -ddisgybl: "Rydyn ni'n mwynhau gwersi difyr. Rwy'n hoffi llythrennedd!”

Ychwanegodd Bayleigh-Rae, sydd hefyd ym Mlwyddyn Pump: “Rwyf wrth fy modd â’r celf yr ydym yn ei wneud yn yr ysgol.”

A dywedodd Demi, disgybl ym mlwyddyn chwech: “Fe wnaethon ni lawer o weithgareddau i Pudsey y mis diwethaf, a choginio bisgedi.”

Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yng Nghwmbrân, oedd yr unig ysgol yn Nhorfaen heb unrhyw absenoldebau heb ganiatâd ym mis Hydref a mis Tachwedd.

Dywedodd y pennaeth Joanne Weightman: "Rydyn ni wrth ein bodd â'n cyfradd presenoldeb a bod disgyblion yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel wrth ddod i'r ysgol.

"Mae gan swyddog cymorth ein hysgol berthynas wych gyda'n teuluoedd ac mae gennym bolisi drws agored i rieni ddod i siarad â ni ar unrhyw adeg."

Ysgol Gorllewin Mynwy ym Mhont-y-pŵl oedd yr unig ysgol uwchradd yn Nhorfaen i weld gostyngiad yn nifer yr absenoldebau heb ganiatâd, o 2.6 y cant i 2.4 y cant.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, aelod gweithredol dros addysg: "Mae'n wych gweld gostyngiadau yn nifer yr absenoldebau heb ganiatâd mewn ysgolion, gan eu bod yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion a'u dosbarth.

"Mae'r gwaith y mae ysgolion yn ei wneud i gefnogi disgyblion i fynychu'r ysgol yn rheolaidd, ac annog rhieni i riportio eu plant yn absennol yn brydlon, yn talu ar ei ganfed.

"Mae hefyd wedi bod yn bleser gweld ysgolion yn rhannu ffotograffau o rai o weithgareddau difyr y tymor hwn fel rhan o'r ymgyrch Ddim Mewn Colli Mas. Edrychaf ymlaen at weld mwy o ddiweddariadau y tymor nesaf."

Y mis diwethaf, lansiodd Cyngor Torfaen ei ymgyrch Ddim Mewn Colli Mas i helpu i leihau absenoldebau heb ganiatâd trwy ddathlu manteision mynd i'r ysgol yn rheolaidd.

Cofnodir absenoldebau heb ganiatâd pan fydd disgybl yn absennol heb eglurhad, neu pan nad yw ysgolion yn ystyried y rheswm a roddir yn achos derbyniol i fethu ysgol.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn diweddaru eu polisi a'u harweiniad ynghylch presenoldeb, a bydd drafft o bolisi presenoldeb diwygiedig i Dorfaen yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

Os na all plentyn fynychu'r ysgol, dylai rhieni neu ofalwyr riportio ei fod yn absennol cyn gynted â phosibl. Dylai rhieni a gofalwyr hefyd sicrhau bod gan ysgolion eu manylion cyswllt cywir.

Os yw plentyn yn ei chael yn anodd mynychu'r ysgol yn rheolaidd, dylai rhieni a gofalwyr siarad â'u hysgol neu gysylltu â thîm lles addysg y cyngor ar 01495 766965.

I gael gwybodaeth am bresenoldeb mewn ysgolion yn Nhorfaen, ewch i’n gwefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 14/12/2022 Nôl i’r Brig