Grŵp mynediad anabledd yn ehangu

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Awst 2022
Torfaen Access Forum 2

Mae fforwm sy’n rhoi llais i bobl ag anableddau yn Nhorfaen wedi gweld mwy na dyblu nifer y bobl sy’n mynychu ei gyfarfodydd.

Sefydlwyd Fforwm Mynediad Torfaen yng Ngorffennaf 2020 i amlygu rhai o’r problemau oedd gan bobl ag anableddau corfforol a chudd yn ystod y pandemig – fel trefnu siopa bwyd, cael mynediad i wybodaeth a diffyg cyfleoedd i ymarfer corff.

Mae’r grŵp wedi tyfu ers hynny ac mae’n bwriadu nawr codi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o heriau sy’n wynebu pobl sy’n byw ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir yn Nhorfaen.

Dywedodd Amanda Say, un o’r Ymddiriedolwyr: "Bu gen i ddiddordeb ers nifer o flynyddoedd mewn gwneud fy ardal leol yn fwy hygyrch ar ôl dod yn ddefnyddiwr cadair olwyn wedi damwain car.

"Mae fy rôl fel hyfforddwr i grŵp Marchogaeth i’r Anabl wedi rhoi mewnwelediad i mi i’r nifer o heriau sy’n dod gyda gwahanol anableddau.  Rwy’n eistedd ar Banel Hygyrchedd Trafnidiaeth Cymru ac rwy’n teithio ar y trên ac yn ymweld â gorsafoedd rheilffordd i edrych ar hygyrchedd a’r gwelliannau y mae eu hangen.

"Roeddwn i mor falch pan glywais i fod FfAT wedi ei sefydlu ac rwy’n edrych ymlaen at helpu pobl eraill ag anableddau i gael llais."

Mae’r fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd gyda sefydliadau lleol, gan gynnwys Cyngor Torfaen, i drafod amrywiaeth o faterion fel cyfleoedd hamdden, gofal iechyd, mynediad at gefn gwlad a pharcio i’r anabl, gyda’r bwriad o gael hyd i atebion posibl.

Er enghraifft, mae’r grŵp wedi ymgyrchu’n llwyddiannus dros gyfleusterau parcio gwell yng nghanol tref Cwmbrân a sesiynau newydd yn y gampfa i bobl ag anableddau.  

Llynedd, ddaeth y fforwm yn Sefydliad Pobl Anabl ac mae’n gweithio’n agos ag Anabledd Cymru. Mae aelodau’n cymryd rhan yn aml mewn grwpiau ffocws, cynadleddau, cyfleoedd ymchwil gyda Llywodraeth Cymru ac Anabledd Cymru.

Bydd cyfarfodydd nesaf y fforwm yn digwydd am 10am ar ddydd Mercher 28 Medi a dydd Mercher 30 Tachwedd. Am fwy o wybodaeth, danfonwch e-bost at Taftorfaen@outlook.com.

Mae Fforwm Mynediad Torfaen yn un o nifer o banelau dinasyddion a gefnogir gan Gyngor Torfaen.  Gallwch ddysgu mwy am y fforymau ar ein gwefan.

Gallwch hefyd roi eich barn ynglŷn â sut mae Cyngor Torfaen yn ymgynghori â’r trigolion i gyd yn ein  harolwg cyfranogiad cyhoeddus.  

(Yn y llun: Ymddiriedolwyr FfAT, yr Athro John Hunt, Amanda Say a Jackie Rue)

Diwygiwyd Diwethaf: 05/08/2022 Nôl i’r Brig