Annual residents survey opens

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Hydref 2022
Res Survey Web tile CYM

Heddiw, rydym yn lansio ein Harolwg Sirol Blynyddol i Drigolion. 

Y llynedd, fe wnaeth bron i 1,000 o bobl rhoi adborth gwerthfawr am wasanaethau Cyngor Torfaen, seilwaith lleol, yr amgylchedd a chymunedau.

Ers hynny, rydym wedi buddsoddi mewn cerbydau gwastraff newydd; gwario bron i £1 miliwn ar atgyweirio ffyrdd a phalmentydd, creu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adfywio canol trefi, dechrau gweithio ar hwb trafnidiaeth yng Ngorsaf Pont-y-pŵl a'r Dafarn Newydd; gosod mannau gwefru cerbydau trydan newydd mewn meysydd parcio cyhoeddus; darparu gwerth miliynau mewn taliadau tanwydd y gaeaf a chostau byw, a chynnig cymorth i gannoedd o unigolion a theuluoedd sydd mewn perygl o ddigartrefedd.

Mae'r Cyngor hefyd wedi cwblhau buddsoddiad gwerth £1.6 miliwn yn Ysgol Panteg ac Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam; agor ysgol gynradd Gymraeg newydd gwerth £8.8 miliwn yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw ac mae ein Gwasanaeth Chwarae wedi darparu cannoedd o leoedd chwarae i blant yn ystod gwyliau'r ysgol.

Bydd eich barn am yr hyn mae'r Cyngor wedi'i wneud - a'r hyn sydd angen ei wneud yn eich barn chi - yn helpu i lywio'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu blaenoriaethu a'u darparu yn y dyfodol. 

Bydd eich ymatebion hefyd yn helpu i lywio pa mor dda y mae'r Cyngor yn perfformio yng nghyd-destun ei Gynllun Sirol sy'n datblygu, a fydd yn cael ei gyhoeddi'r wythnos nesaf.

Cofiwch ddweud eich dweud ar ein hwb cymunedol Dweud eich Dweud Torfaen.

Neu beth am ymweld â’n sesiynau galw heibio cyhoeddus i gael copi papur:

  • Merch. 2 Tach – Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, 10am-4pm
  • Gwe. 4 Tach – Llyfrgell Cwmbrân, 10am-4pm
  • Merch. 9 Tach – Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, 10am-4pm
  • Iau 10 Tach – Llyfrgell Cwmbrân, 10am-4pm
  • Merch 16 Tach – Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, 10am-4pm
  • Merch 23 Tach - Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon 10am-4pm

Bydd trigolion hefyd yn cael cyfle i adolygu'r Cynllun Sirol drafft yn y sesiynau galw heibio ac ar-lein o wythnos nesaf.

Mae'r Cynllun Sirol yn nodi uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf a bydd yn cynnwys targedau cyflawni allweddol, a fydd yn cael eu diweddaru'n flynyddol fel y gall trigolion weld yr hyn sy'n cael ei gyflawni a phryd.

Dywedodd Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor: "Nid yw ein huchelgeisiau ar gyfer Torfaen erioed wedi bod yn uwch, ond dyw'r heriau ariannol sy'n ein hwynebu fel awdurdod lleol a'r heriau costau byw sy'n ein hwynebu fel cymuned erioed wedi bod mor ddifrifol.

"Mae ein gwasanaethau o ddydd i ddydd yn bwysig o ran ei gwneud yn bosibl i drigolion fwrw ymlaen â'u bywydau bob dydd, ond rydym hefyd am wella cynaliadwyedd, cysylltedd a llesiant yn ein sir drwy atgyfnerthu ein cymunedau, ein heconomi a'n hamgylchedd.

"Mae'r rhain yn heriau mawr ond rydyn ni'n hyderus bod modd eu cyflawni gyda'i gilydd. Gallwch ddweud eich dweud drwy gymryd rhan yn ein Harolwg Sirol i Drigolion heddiw."

Gallwch lenwi'r arolwg yn ddienw neu gallwch gofrestru i fod ymhlith y cyntaf i glywed am ymgynghoriadau yn y dyfodol. Gallwch gofrestru yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/10/2022 Nôl i’r Brig